2024 Rhif 407 (Cy. 73)
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2024
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 2(3), 27(1) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”)1.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy, fel sy’n ofynnol gan adrannau 2(4) a 27(4)(a) o’r Ddeddf, ac wedi cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad fel syʼn ofynnol gan adran 27(4)(b) oʼr Ddeddf. Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod copi oʼr datganiad gerbron Senedd Cymru fel syʼn ofynnol gan adran 27(5) oʼr Ddeddf.
Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru o dan adran 187(2)(b) ac (f) o’r Ddeddf ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad2.
Enwi, dod i rym a dehongli1
1
Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2024.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Mawrth 2024.
3
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig” (“the Regulated Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 20173.
Diwygio’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig2
Mae’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.
Gwasanaeth gofal canolraddol awdurdod lleol: eithriad rhag cwmpas gwasanaethau cartref gofal
3
Yn rheoliad 2(1) (gwasanaethau cartrefi gofal)—
a
ar ddiwedd is-baragraff (j), yn lle’r atalnod llawn rhodder “;”;
b
ar ôl is-baragraff (j) mewnosoder—
l
y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolion mewn gwasanaeth gofal canolraddol awdurdod lleol.
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys oni bai—
i
bod yr awdurdod lleol yn llwyr gyfrifol am ddarparu’r gofal canolraddol, a
ii
bod y gofal canolraddol yn cael ei ddarparu am ddim mwy nag un wythnos ar bymtheg ar y tro i unrhyw un oedolyn.
4
Yn rheoliad 2 (gwasanaethau cartrefi gofal), ar ôl paragraff (4) mewnosoder—
5
At ddibenion paragraff (1)(l) o’r rheoliad hwn—
ystyr “gofal canolraddol” (“intermediate care”) yw’r ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolyn am gyfnod cyfyngedig at ddiben hybu gallu’r oedolyn i fyw’n annibynnol yn ei gartref ei hun drwy—
- a
osgoi ei dderbyn i ysbyty yn ddiangen,
- b
lleihau hyd unrhyw dderbyniad i’r ysbyty drwy alluogi ei ryddhau yn amserol,
- c
galluogi ei adferiad ar ôl ei ryddhau o’r ysbyty, neu
- d
atal neu ohirio’i dderbyn i wasanaeth cartref gofal;
ystyr “gwasanaeth gofal canolraddol awdurdod lleol” (“local authority intermediate care service”) yw gwasanaeth sy’n darparu gofal canolraddol—
- a
a ddarperir gan awdurdod lleol i oedolyn yn unol â’i ddyletswyddau yn Rhan 2 neu 4 o Ddeddf 20144,
- b
pan fo’r llety a ddefnyddir at ddibenion y gofal canolraddol wedi ei freinio yn yr awdurdod lleol, ac
- c
pan fo unrhyw ofal a chymorth wedi ei ddarparu gan wasanaeth cymorth cartref y mae’r awdurdod lleol wedi ei gofrestru i’w ddarparu.
Diwygio rheoliad 49
5
Yn rheoliad 49 (cymhwyso Rhan 13), yn lle paragraff (1) rhodder—
1
Mae’r Rhan hon yn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth llety—
a
i
pan fo’r gwasanaeth yn cynnwys darparu llety i bump neu ragor o unigolion, a
ii
pan fo’r fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn dod o fewn un o’r categorïau ym mharagraff (2), neu
b
pan fo’r darparwyr gwasanaethau yn bersonau y mae rheoliad 49A(1) neu reoliad 49B(1) yn gymwys iddynt.
6
Ar ôl rheoliad 49 (cymhwyso Rhan 13) mewnosoder—
Ailgyflunio mangre
49A
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth—
a
sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth llety mewn man a bennir fel amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth, a
b
nad oedd Rhan 13 yn gymwys iddo mewn perthynas â’r man hwnnw yn ystod cyfnod pan oedd y gwasanaeth yn cynnwys darparu llety i bedwar neu lai o unigolion.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo darparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo wedi cael caniatâd am amrywiad i’w amodau cofrestru ar neu ar ôl 31 Mawrth 2024 o ganlyniad i ailgyflunio mangre a ddefnyddir mewn perthynas â’r man, ac mai effaith yr amrywiad yw y gellir darparu llety yn y man hwnnw i bump neu ragor o unigolion, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gydymffurfio â gofynion rheoliadau 50 i 54 mewn cysylltiad â’r man hwnnw.
3
Nid yw’r gofyniad i gydymffurfio â rheoliadau 50 a 51 mewn perthynas â’r man hwnnw ond yn gymwys i unrhyw ystafelloedd gwely ychwanegol ar gyfer unigolion.
4
Yn y rheoliad hwn a rheoliad 49B—
ystyr “ailgyflunio mangre” (“reconfiguration of premises”) yw ad-drefnu neu newid cynllun ffisegol presennol y fangre er mwyn cynyddu nifer yr unigolion y gellir darparu llety iddynt yn y gwasanaeth.
49B
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth—
a
sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth llety mewn man a bennir fel amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth, a
b
nad oedd Rhan 13 yn gymwys iddo mewn perthynas â’r man hwnnw yn ystod cyfnod pan nad oedd y fangre a ddefnyddir gan y gwasanaeth yn dod o fewn Categori A, B nac C a phan oedd yn cynnwys darparu llety i bump neu ragor o unigolion.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo darparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo wedi cael caniatâd am amrywiad i’w amodau cofrestru ar neu ar ôl 31 Mawrth 2024 o ganlyniad i ailgyflunio mangre a ddefnyddir mewn perthynas â’r man, ac mai effaith yr amrywiad yw bod nifer yr unigolion y gellir darparu llety ar eu cyfer yn y man hwnnw wedi ei gynyddu, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gydymffurfio â gofynion rheoliadau 50 i 54 mewn cysylltiad â’r man hwnnw.
3
Nid yw’r gofyniad i gydymffurfio â rheoliadau 50 a 51 mewn perthynas â’r man hwnnw ond yn gymwys i unrhyw ystafelloedd gwely ychwanegol ar gyfer unigolion.
Diwygiadau amrywiol
7
Yn rheoliad 16(2) (adolygu cynllun personol), yn lle “plentyn sy’n derbyn gofal” rhodder “plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol”.
8
Yn rheoliad 51(2) (gofynion ychwanegol – maint ystafelloedd), ar ôl “gyson” mewnosoder atalnod llawn a hepgorer “oherwydd natur ei anabledd.”
Darpariaeth drosiannol9
Mae rheoliad 49 o’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig yn parhau i gael effaith heb y diwygiadau a wneir gan reoliad 6 mewn perthynas â man lle y darperir gwasanaeth llety ac sy’n destun cais i amrywio cofrestriad gan y darparwr gwasanaeth o dan adran 11 o’r Ddeddf pan wnaed y cais i Weinidogion Cymru ar neu cyn 30 Mawrth 2024 ond—
a
nad yw Gweinidogion Cymru wedi ei benderfynu erbyn y dyddiad hwnnw, neu
b
ei fod wedi ei benderfynu gan Weinidogion Cymru ond ei fod yn destun apêl gan y darparwr gwasanaeth o dan adran 26 o’r Ddeddf ac nad yw’r apêl wedi ei phenderfynu erbyn y dyddiad hwnnw.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)