2024 Rhif 754 (Cy. 106)

Tai, Cymru

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2024

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 30 a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 19961 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2.

Enwi, dod i rym a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2024 a deuant i rym ar 1 Awst 2024.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygiadau i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 19962

1

Mae Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 19963 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5).

2

Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “self-employment route”, ym mharagraff (b)(ii)4, yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “the Welsh Ministers or the Commission for Tertiary Education and Research”.

3

Yn rheoliad 41 (dehongli)—

a

yn y diffiniad o “access funds”5

i

yn lle paragraff (a) rhodder—

a

grants made under section 85 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 for the purposes of providing funds on a discretionary basis to be paid to students;

ii

yn lle paragraff (d) rhodder—

d

discretionary payments made from funds known as “Financial Contingency Funds” paid to students by the Welsh Ministers under section 14 of the Education Act 2002;

b

yn y diffiniad o “full-time course of study”6

i

ym mharagraff (a), yn lle “or by the National Assembly for Wales” rhodder “, by the Welsh Ministers or by the Commission for Tertiary Education and Research,”;

ii

ym mharagraff (b), yn lle “or by the National Assembly for Wales” rhodder “, by the Welsh Ministers or by the Commission for Tertiary Education and Research”;

iii

ym mharagraff (b)(ii)—

aa

yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers or by the Commission for Tertiary Education and Research”;

bb

yn lle “that Council” rhodder “the Welsh Ministers or the Commission for Tertiary Education and Research”.

4

Yn rheoliad 43 (penderfynu incwm grant), hepgorer paragraff (3A)7.

5

Yn rheoliad 46 (trin benthyciadau i fyfyrwyr)—

a

ym mharagraff (1)8, hepgorer “unless it is a hardship loan, in which case it shall be disregarded”;

b

hepgorer paragraff (1A)9;

c

ym mharagraff (2)(aa)10, yn lle “regulation 2 of the Education (Student Support) Regulations 2002” rhodder “Schedule 7 to the Education (Student Support) (Wales) Regulations 2018”.

Julie JamesYsgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (“Rheoliadau 1996”), sy’n nodi’r prawf modd ar gyfer penderfynu swm y grant y caniateir i awdurdodau tai lleol ei dalu o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.

Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (“Deddf 2022”) yn sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (“y Comisiwn”) ac yn darparu fframwaith statudol newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil a gyllidir yn gyhoeddus yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1996 i ddiweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth a ddiddymir gan Ddeddf 2022 ac i roi cyfeiriad at Weinidogion Cymru neu’r Comisiwn, fel y bo’n briodol, yn lle cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau 1996 i gywiro cyfeiriadau nad ydynt yn gyfredol bellach at ddeddfwriaeth cymorth i fyfyrwyr.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.