Search Legislation

Rheoliadau Rhestr Ardrethu Ganolog (Cymru) (Diwygio) 2024

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 757 (Cy. 108)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Rhestr Ardrethu Ganolog (Cymru) (Diwygio) 2024

Gwnaed

17 Mehefin 2024

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

19 Mehefin 2024

Yn dod i rym

18 Gorffennaf 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 53(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Ganolog (Cymru) (Diwygio) 2024.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Gorffennaf 2024.

Diwygio Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005

2.  Mae Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005(3) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 17.

3.  Yn rheoliad 7(1) (hereditamentau rheilffyrdd), ar ôl “Network Rail Infrastructure Limited” mewnosoder “(registered with company number 02904587)”.

4.  Yn rheoliad 8 (hereditamentau cyfathrebu), ym mharagraffau (1)(a), (3) a (5)(b), yn lle “British Telecommunications plc”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “British Telecommunications Public Limited Company (registered with company number 01800000)”.

5.  Yn rheoliad 9 (hereditamentau nwy cenedlaethol a rhanbarthol)—

(a)ym mharagraffau (1) a (3), yn lle “Transco”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “National Gas Transmission plc (registered with company number 02006000)”;

(b)ym mharagraff (5) hepgorer ““Transco” means Transco plc and each subsidiary of National Grid Transco plc existing on 1 March 2005;” a’r “and” ar ei ôl.

6.  Yn rheoliad 11 (hereditamentau mesuryddion nwy)—

(a)ym mharagraffau (1) a (3), yn lle “Transco”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “National Gas Transmission plc (registered with company number 02006000)”;

(b)hepgorer paragraff (4)(b) a’r “and” ar ei ôl.

7.  Yn Rhan 1 o’r Atodlen (hereditamentau rheilffyrdd), yn y golofn gyntaf (person dynodedig), yn union ar ôl “Network Rail Infrastructure Limited” mewnosoder “(registered with company number 02904587)”.

8.  Yn Rhan 2 o’r Atodlen (hereditamentau cyfathrebu), yn y golofn gyntaf (person dynodedig)—

(a)yn lle “British Telecommunications plc” rhodder “British Telecommunications Public Limited Company (registered with company number 01800000)”;

(b)hepgorer y personau dynodedig a ganlyn—

(i)“Cable and Wireless UK”;

(ii)“Energis Communications Limited”;

(c)yn lle “Global Crossing (UK) Telecommunications Limited” rhodder “Lumen Technologies UK Limited (registered with company number 02495998)”.

9.  Yn Rhan 3 o’r Atodlen (hereditamentau trawsgludo nwy cenedlaethol a rhanbarthol), yn y golofn gyntaf (person dynodedig)—

(a)yn lle “Transco” rhodder “National Gas Transmission plc (registered with company number 02006000)”;

(b)yn lle “Blackwater 2 Limited” rhodder “Wales & West Utilities Limited (registered with company number 05046791)”.

10.  Yn Rhan 4 o’r Atodlen (hereditamentau trawsgludo nwy lleol), yn y golofn gyntaf (person dynodedig)—

(a)hepgorer y personau dynodedig a ganlyn—

(i)“British Gas Connections Limited”;

(ii)“British Gas Pipelines Limited”;

(iii)“Utility Grid Installations Limited”;

(iv)“The Gas Transportation Company Limited”;

(v)“SP Gas Limited”;

(vi)“Quadrant Pipelines Limited”;

(vii)“ESP Networks Limited”;

(viii)“ESP Pipelines Limited”;

(b)yn lle “Global Utility Connections Limited” rhodder “Last Mile Gas Limited (registered with company number SC303150)”;

(c)yn union ar ôl “Independent Pipelines Limited” mewnosoder “(registered with company number 02828692)”;

(d)yn lle “SSE Pipelines Limited” rhodder “Indigo Pipelines Limited (registered with company number 02742721)”;

(e)yn union ar ôl “GTC Pipelines Limited” mewnosoder “(registered with company number 03104203)”;

(f)yn union ar ôl “E.S. Pipelines Limited” mewnosoder “(registered with company number 03822878)”.

11.  Yn Rhan 5 o’r Atodlen (hereditamentau mesuryddion nwy), yn y golofn gyntaf (person dynodedig)—

(a)yn lle “Transco” rhodder “National Gas Transmission plc (registered with company number 02006000)”;

(b)yn lle “Blackwater 2 Limited” rhodder “Wales & West Utilities Limited (registered with company number 05046791)”.

12.  Yn Rhan 6 o’r Atodlen (hereditamentau trawsyrru trydan), yn y golofn gyntaf (person dynodedig), yn lle “National Grid Company plc” rhodder “National Grid Electricity Transmission plc (registered with company number 02366977)”.

13.  Yn Rhan 7 o’r Atodlen (hereditamentau dosbarthu trydan), yn y golofn gyntaf (person dynodedig)—

(a)yn lle “Central Networks West plc” rhodder “National Grid Electricity Distribution (West Midlands) plc (registered with company number 03600574)”;

(b)yn union ar ôl “SP Manweb plc” mewnosoder “(registered with company number 02366937)”;

(c)hepgorer “United Utilities Electricity plc”;

(d)yn lle “Western Power Distribution (South Wales) plc” rhodder “National Grid Electricity Distribution (South Wales) plc (registered with company number 02366985)”.

14.  Yn Rhan 8 o’r Atodlen (hereditamentau mesuryddion trydan), yn y golofn gyntaf (person dynodedig)—

(a)yn lle “Central Networks West plc” rhodder “National Grid Electricity Distribution (West Midlands) plc (registered with company number 03600574)”;

(b)yn union ar ôl “SP Manweb plc” mewnosoder “(registered with company number 02366937)”;

(c)hepgorer “United Utilities Electricity plc”;

(d)yn lle “Western Power Distribution (South Wales) plc” rhodder “National Grid Electricity Distribution (South Wales) plc (registered with company number 02366985)”.

15.  Yn Rhan 9 o’r Atodlen (hereditamentau cyflenwi dŵr), yn y golofn gyntaf (person dynodedig)—

(a)yn lle “Dee Valley Water plc” rhodder “Hafren Dyfrdwy Cyfyngedig (registered with company number 03527628)”;

(b)yn union ar ôl “Dŵr Cymru Cyfyngedig” mewnosoder “(registered with company number 02366777)”;

(c)yn union ar ôl “Severn Trent Water Limited” mewnosoder “(registered with company number 02366686)”;

(d)yn lle “United Utilities Water plc” rhodder “United Utilities Water Limited (registered with company number 02366678)”.

16.  Yn Rhan 10 o’r Atodlen (hereditamentau camlesi), yn y golofn gyntaf (person dynodedig) hepgorer “The British Waterways Board”.

17.  Yn Rhan 11 o’r Atodlen (hereditamentau piblinellau pellter hir), yn y golofn gyntaf (person dynodedig), yn union ar ôl “Mainline Pipelines Limited” mewnosoder “(registered with company number 00995545)”.

Rebecca Evans

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet, un o Weinidogion Cymru

17 Mehefin 2024

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”). Mae Rheoliadau 2005 yn dynodi personau ac yn rhagnodi, mewn perthynas â’r personau hynny, un neu ragor o ddisgrifiadau o hereditamentau annomestig. Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn adlewyrchu enwau newydd personau dynodedig penodol, ac yn dileu’r rhai nad ydynt yn atebol mwyach am hereditamentau annomestig penodol. Mae rhifau cwmni ar gyfer pob person dynodedig wedi eu mewnosod hefyd. Yr effaith yw sicrhau bod Rheoliadau 2005 yn adlewyrchu’n gywir y personau dynodedig, a’r disgrifiadau cyfatebol o hereditamentau, ar Restr Ardrethu Ganolog Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

Trosglwyddwyd y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 53(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p. 41), i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, ac fe’i trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources