Amrywiol a chyffredinolLL+C
18CanllawiauLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau deddfu ynghylch –
(a)gwneud is-ddeddfau y mae adran 6 neu 7 yn gymwys iddynt;
(b)y weithdrefn ar gyfer gwneud is-ddeddfau;
(c)gorfodi is-ddeddfau;
(d)unrhyw beth sy’n ymwneud â’r materion hyn gan gynnwys –
(i)gofynion ymgynghori a chyhoeddi;
(ii)y defnydd o gosbau penodedig.
(2)Rhaid i awdurdod deddfu roi sylw i’r canllawiau wrth wneud neu wrth orfodi isddeddfau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 18(1) mewn grym ar 30.11.2012, gweler a. 22(1)(a)
I2A. 18(2) mewn grym ar 31.3.2015 gan O.S. 2015/1025, ergl. 2(p)
19Tystiolaeth o is-ddeddfauLL+C
(1)Mae dangos copi ardystiedig o is-ddeddf sy’n honni iddi gael ei gwneud gan awdurdod deddfu, nes profir i’r gwrthwyneb, yn dystiolaeth ddigonol o’r ffeithiau a ddatgenir yn y dystysgrif.
(2)At ddibenion yr adran hon, copi ardystiedig o is-ddeddf yw copi wedi ei argraffu o’r is-ddeddf a arnodwyd ynghyd â thystysgrif sy’n honni iddi gael ei llofnodi gan swyddog priodol awdurdod deddfu sy’n datgan –
(a)bod yr is-ddeddf wedi cael ei gwneud gan yr awdurdod;
(b)bod y copi yn gopi gwir o’r is-ddeddf;
(c)bod yr is-ddeddf wedi ei chadarnhau ar ddiwrnod penodedig gan yr awdurdod a enwir yn y dystysgrif neu, yn ôl y digwydd, wedi cael ei hanfon at yr awdurdod cadarnhau a heb gael ei gwrthod;
(d)y dyddiad, os oes un, a bennwyd gan yr awdurdod cadarnhau i’r is-ddeddf ddod yn effeithiol.
(3)Nid yw’r gofynion ym mharagraffau (c) a (d) o is-adran (2) yn gymwys os nad oedd yr is-ddeddf yn ddarostyngedig i gadarnhad ar ôl iddi gael ei gwneud.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)
I4A. 19 mewn grym ar 31.3.2015 gan O.S. 2015/1025, ergl. 2(q)
20Diwygiadau canlyniadolLL+C
Mae Atodlen 2 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) yn cael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)
I6A. 20 mewn grym ar 31.3.2015 gan O.S. 2015/1025, ergl. 2(r) (ynghyd ag ergl. 3)
21Gorchmynion a rheoliadauLL+C
(1)Mae pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon (ac eithrio gorchymyn o dan adran 22 (cychwyn)) yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth atodol sy’n briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru.
(2)Yn achos y pŵer o dan adrannau 9 ac 16, mae’r ddarpariaeth hon yn cynnwys diwygio, diddymu neu ddirymu deddfiadau.
(3)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(4)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn o dan adran 9, 13(5) neu 16 gael ei wneud onid oes drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.
(5)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon, ac eithrio offeryn nad yw ond yn cynnwys gorchymyn o dan adran 22 (cychwyn), yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 21 mewn grym ar 30.11.2012, gweler a. 22(1)(b)
22CychwynLL+C
(1)Daw’r darpariaethau canlynol i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon Gydsyniad Brenhinol –
(a)adran 18(1);
(b)adran 21;
(c)yr adran hon;
(d)adran 23.
(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2) –
(a)penodi diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;
(b)cynnwys darpariaeth drosiannol, darpariaeth arbed neu ddarpariaeth ddarfodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 22 mewn grym ar 30.11.2012, gweler a. 22(1)(c)
23Enw byrLL+C
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 23 mewn grym ar 30.11.2012, gweler a. 22(1)(d)