ATODLEN 1RHESTRAU O BWERAU I WNEUD IS-DDEDDFAU

RHAN 1IS-DDEDDFAU PAN NA FO CADARNHAD YN OFYNNOL

1

Mae adran 6 yn gymwys i is-ddeddfau a wnaed –

a

o dan y deddfiadau a restrir yng ngholofn gyntaf tabl 1,

b

mewn perthynas â’r pwnc a restrir yn ail golofn tabl 1,

c

gan y math o awdurdod a restrir yn nhrydedd golofn tabl 1.

TABL 1

Y deddfiad y gwneir is-ddeddfau odano

Pwnc yr is-ddeddfau

Y math o awdurdod sy’n gwneud yr is-ddeddfau

Adran 68 o Ddeddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847

Rheoleiddio cerbydau hacnai

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

Adran 164 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1875

Rhodfeydd cyhoeddus a thiroedd hamdden

Cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned

Adran 6 o Ddeddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1889

Rheoleiddio bysiau a dynnir gan geffylau

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

Adrannau 12 a 15 o Ddeddf Mannau Agored 1906

Mannau agored a mynwentydd

Cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned

Adran 82 o Ddeddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1907

Glan y môr

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

Adran 83 o Ddeddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1907

Promenadau

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

Adran 81 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936

Atal niwsansau penodol

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

Adran 82 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936

Symud mater neu hylif annymunol drwy strydoedd

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

Adran 87 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936

Darparu cyfleusterau cyhoeddus

Cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned

Adran 198 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936

Darparu marwdai ac ystafelloedd post-mortem

Cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned

Adran 223 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936

Rheoleiddio baddonau, ymolchfeydd, pyllau nofio etc

Cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned

Adran 231 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936

Baddonau cyhoeddus

Cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned

Adran 233 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936

O ran pyllau nofio a baddonau nad ydynt o dan reolaeth awdurdod lleol

Cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned

Adran 268 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936

Atal niwsansau mewn cysylltiad â defnyddio pebyll, faniau etc

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

Adran 270 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936

Lletya casglwyr hopys a phersonau a gymerir ymlaen i wneud gwaith tebyg

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

Adran 75 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1961

ffeiriau pleser a rhinciau sglefrolio

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

Adran 76 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1961

Cychod neu fadau pleser glan y môr

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

Adran 77 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1961

Trinwyr gwallt a barbwyr

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

Adran 19 o Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964

Rheoleiddio ymddygiad personau mewn llyfrgelloedd ac amgueddfeydd a defnyddio’r cyfleusterau hynny

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

Adran 35 o Ddeddf Priffyrdd 1980

Rheoleiddio rhodfeydd

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

Adran 114 o Ddeddf Priffyrdd 1980

Ymddygiad personau sy’n defnyddio neu’n mynd i gyfleusterau cyhoeddus a ddarperir gan awdurdodau priffyrdd

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

Adran 14 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982

Aciwbigo

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982

Tatŵio, lliwio croen yn lledbarhaol, tyllu cosmetig ac electrolysis

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

Adran 60 o Ddeddf Bwyd 1984

Rheoleiddio ac atal niwsansau mewn marchnadoedd

Cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned

Adran 31 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984

Defnyddio ffordd fel lle chwarae i blan

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

Adran 57(7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984

Defnydd o fannau parcio

Cynghorau cymuned

Adran 23 o Ddeddf Tai 1985

Rheoli, defnyddio a rheoleiddio tai awdurdod lleol, y defnydd o dir a ddarperir mewn cysylltiad â thai ac mewn perthynas â thai llety awdurdod lleol

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

Adran 16 o Ddeddf Morglawdd Bae Caerdydd 1993

Rheolaeth dda a llywodraeth o faeau mewndirol a harbyrau

Cyngor Sir (Caerdydd)

Adran 2 o’r Ddeddf hon

Rheolaeth dda a llywodraeth

Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

Adran 4(1) o’r Ddeddf hon i’r graddau y mae’n gymwys i is-ddeddfau a wnaed o dan unrhyw un neu ragor o’r deddfiadau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1.

Y pŵer i ddiddymu is-ddeddfau

Awdurdod deddfu