Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012

13Swm cosb benodedigLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff awdurdod deddfu –

(a)pennu swm y gosb benodedig sy’n daladwy yn unol â hysbysiad o dan adran 12;

(b)pennu symiau gwahanol mewn perthynas ag is-ddeddfau gwahanol.

(2)Os na phennir unrhyw swm felly, swm y gosb benodedig yw £75.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth mewn cysylltiad â’r pwerau o dan is-adran (1).

(4)Caiff Rheoliadau o dan is-adran (3), yn benodol –

(a)ei gwneud yn ofynnol bod swm a bennir o dan is-adran (1)(a) yn dod o fewn ystod a ragnodir yn y rheoliadau;

(b)cyfyngu ar y rhychwant y caiff awdurdod wneud darpariaeth o dan is-adran (1)(b) a chyfyngu ar yr amgylchiadau pan all wneud hynny.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn roi swm arall yn lle’r swm a bennir am y tro yn is-adran (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I2A. 13(1)(2)(5) mewn grym ar 31.3.2015 gan O.S. 2015/1025, ergl. 2(l)

I3A. 13(3)(4) mewn grym ar 15.8.2014 gan O.S. 2014/2121, ergl. 2(c)(d)