Hysbysiadau cosbau penodedig

14Y pŵer i ofyn am enw a chyfeiriad mewn cysylltiad â chosb benodedig

(1)

Os bydd swyddog awdurdodedig yn bwriadu rhoi hysbysiad i berson o dan adran 12, caniateir i’r swyddog ei gwneud yn ofynnol bod y person yn rhoi ei enw a’i gyfeiriad.

(2)

Mae person yn cyflawni tramgwydd os yw’r person hwnnw –

(a)

heb esgus rhesymol yn methu â rhoi ei enw a’i gyfeiriad pan fo hynny’n ofynnol, neu

(b)

os yw’n rhoi enw neu gyfeiriad anwir neu anghywir wrth ymateb i ofyniad o dan yr is-adran honno.

(3)

Mae person sy’n euog o dramgwydd o dan is-adran (2) yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4)

Yn yr adran hon mae i “swyddog awdurdodedig” yr un ystyr ag sydd ganddo yn adran 12.