Amrywiol a chyffredinol
18Canllawiau
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau deddfu ynghylch –
(a)
gwneud is-ddeddfau y mae adran 6 neu 7 yn gymwys iddynt;
(b)
y weithdrefn ar gyfer gwneud is-ddeddfau;
(c)
gorfodi is-ddeddfau;
(d)
unrhyw beth sy’n ymwneud â’r materion hyn gan gynnwys –
(i)
gofynion ymgynghori a chyhoeddi;
(ii)
y defnydd o gosbau penodedig.
(2)
Rhaid i awdurdod deddfu roi sylw i’r canllawiau wrth wneud neu wrth orfodi isddeddfau.