Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012

18CanllawiauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau deddfu ynghylch –

(a)gwneud is-ddeddfau y mae adran 6 neu 7 yn gymwys iddynt;

(b)y weithdrefn ar gyfer gwneud is-ddeddfau;

(c)gorfodi is-ddeddfau;

(d)unrhyw beth sy’n ymwneud â’r materion hyn gan gynnwys –

(i)gofynion ymgynghori a chyhoeddi;

(ii)y defnydd o gosbau penodedig.

(2)Rhaid i awdurdod deddfu roi sylw i’r canllawiau wrth wneud neu wrth orfodi isddeddfau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 18(1) mewn grym ar 30.11.2012, gweler a. 22(1)(a)

I2A. 18(2) mewn grym ar 31.3.2015 gan O.S. 2015/1025, ergl. 2(p)