Y weithdrefn ar gyfer is-ddeddfau
I16Is-ddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol
1
Mae’r adran hon yn gymwys i is-ddeddfau a wneir gan awdurdod deddfu o dan y deddfiadau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1, gan gynnwys is-ddeddfau sy’n diwygio neu’n dirymu is-ddeddfau a wnaed ganddo’n flaenorol.
2
Cyn iddo wneud is-ddeddf, rhaid i awdurdod –
a
cyhoeddi datganiad ysgrifenedig cychwynnol ar wefan yr awdurdod sy’n disgrifio’r mater y mae’r awdurdod o’r farn y gallai gwneud is-ddeddf fynd i’r afael ag ef;
b
ymgynghori ag unrhyw berson (gan gynnwys cyngor cymuned pan fo hynny’n gymwys) y mae’r awdurdod o’r farn ei fod yn debygol o fod â diddordeb yn y mater neu’n cael eu heffeithio ganddo.
3
Yn dilyn yr ymgynghoriad, rhaid i’r awdurdod ystyried yr ymatebion a phenderfynu ai gwneud is-ddeddf yw’r dull mwyaf priodol o fynd i’r afael â’r mater.
4
Yna rhaid i’r awdurdod gyhoeddi ail ddatganiad ysgrifenedig ar ei wefan sy’n cynnwys –
a
y datganiad ysgrifenedig cychwynnol;
b
crynodeb o’r ymgynghoriad a’r ymatebion;
c
ei benderfyniad;
d
y rhesymau am y penderfyniad hwnnw.
5
O leiaf chwe wythnos cyn bod yr is-ddeddf yn cael ei gwneud, rhaid cyhoeddi hysbysiad o’r bwriad i wneud yr is-ddeddf –
a
mewn un neu fwy o bapurau newyddion lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r is-ddeddf i fod yn gymwys iddi;
b
ar wefan yr awdurdod.
6
Am o leiaf chwe wythnos cyn bod yr is-ddeddf yn cael ei gwneud, rhaid i’r awdurdod sicrhau –
a
bod drafft o’r is-ddeddf yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod;
b
bod copi o’r drafft yn cael ei adneuo mewn man yn ardal yr awdurdod;
c
bod copi ar gael i’w weld gan y cyhoedd ar bob adeg resymol yn ddi-dâl;
d
pan fo’n gymwys, bod copi yn cael ei anfon at bob cyngor cymuned y mae’r awdurdod o’r farn ei bod yn debygol yr effeithir ar ei ardal gan yr is-ddeddf.
7
Rhaid i’r awdurdod roi copi o’r is-ddeddf ar ffurf ddrafft i unrhyw berson sy’n gwneud cais amdano, ar yr amod bod y person hwnnw’n talu ffi resymol a godir gan yr awdurdod (os oes un).
8
Ni chaiff awdurdod wneud is-ddeddf yn hwyrach na 6 mis ar ôl dyddiad yr hysbysiad yn is-adran (5).