RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION
PENNOD 5CYNIGION I AILSTRWYTHURO ADDYSG CHWECHED DOSBARTH
Gwneud cynigion a’u penderfynu
I1I471Pwerau Gweinidogion Cymru i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth
1
Caiff Gweinidogion Cymru wneud cynigion o dan yr adran hon—
a
i un neu fwy o ysgolion cymunedol neu arbennig cymunedol newydd gael eu sefydlu gan awdurdod lleol i ddarparu addysg uwchradd sy’n addas at anghenion disgyblion chweched dosbarth (ac nid unrhyw addysg uwchradd arall);
b
ar gyfer newid a ddisgrifir ym mharagraff 6 o Atodlen 2 i un neu fwy o ysgolion a gynhelir;
c
i derfynu un neu fwy o ysgolion a gynhelir sy’n darparu addysg uwchradd sy’n addas at anghenion disgyblion chweched dosbarth (ac nid unrhyw addysg uwchradd arall).
2
Mae “disgybl chweched dosbarth” yn berson sydd dros oedran ysgol gorfodol ond o dan 19 oed.
I2I572Ymgynghori, cyhoeddi a gwrthwynebiadau
1
Cyn cyhoeddi cynigion a wneir o dan adran 71, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ynglyn â’r cynigion yn unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cynigion a wneir o dan adran 71 yn unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.
3
Caiff unrhyw berson wrthwynebu’r cynigion.
4
Rhaid i wrthwynebiadau gael eu hanfon yn ysgrifenedig at Weinidogion Cymru cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y cyhoeddwyd y cynigion.
I3I673Penderfyniad gan Weinidogion Cymru
1
Ar ôl diwedd yr 28 o ddiwrnodau y cyfeiriwyd atynt yn adran 72(4), rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylid—
a
mabwysiadu’r cynigion, gydag addasiadau neu hebddynt, neu
b
tynnu’r cynigion yn eu hôl.
2
Wrth wneud penderfyniad o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw wrthwynebiadau a wnaed yn unol ag adran 72(4) ac sydd heb gael eu tynnu’n ôl.
3
Cyn mabwysiadu cynigion yn ddarostyngedig i addasiadau, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn credu eu bod yn briodol.
4
Caniateir i fabwysiad cynigion ddatgan mai dim ond os bydd digwyddiad a bennir yn y mabwysiad yn digwydd erbyn dyddiad a bennir felly, y byddai’n dod yn weithredol.
5
Os na fydd y digwyddiad yn digwydd erbyn y dyddiad penodedig rhaid i Weinidogion Cymru ailystyried eu penderfyniad o dan is-adran (1).
6
Caiff Gweinidogion Cymru dynnu eu cynigion yn ôl ar unrhyw bryd cyn iddynt wneud penderfyniad o dan is-adran (1).