Search Legislation

Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

Newidiadau dros amser i: PENNOD 6

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/04/2015.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, PENNOD 6 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 02 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

PENNOD 6LL+CDARPARIAETHAU AMRYWIOL AC ATODOL

78Ysgolion ffederalLL+C

Caiff cynigion a wneir o dan y Rhan hon i sefydlu ysgol newydd fod yn gysylltiedig â sefydlu’r ysgol fel ysgol ffederal (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 21(1) o the Fesur Addysg (Cymru) 2011).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 78 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 78 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4, 5)

79Gwaharddiad ar awdurdodau lleol rhag sefydlu ysgolion yn LloegrLL+C

Ni chaniateir i unrhyw gynigion gael eu gwneud ar gyfer sefydlu ysgol yn Lloegr y cynigir ei bod yn cael ei chynnal gan awdurdod lleol yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 79 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I4A. 79 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(e) (ynghyd ag ergl. 4)

80Hysbysiad gan gorff llywodraethu am derfynu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddolLL+C

(1)Caiff corff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol derfynu’r ysgol drwy gyflwyno i Weinidogion Cymru a’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol hysbysiad sy’n rhoi dwy flynedd o rybudd o’i fwriad i wneud hynny.

(2)Mae’n ofynnol cael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn cyflwyno hysbysiad o dan yr adran hon os aed i wariant ar fangre’r ysgol (ac eithrio mewn cysylltiad ag atgyweiriadau)—

(a)gan Weinidogion Cymru, neu

(b)gan unrhyw awdurdod lleol.

(3)Rhaid i’r corff llywodraethu ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn cyflwyno hysbysiad o dan yr adran hon os byddai terfynu’r ysgol yn effeithio ar y cyfleusterau ar gyfer addysg lawnamser sy’n addas at anghenion personau dros oedran ysgol gorfodol nad ydynt wedi cyrraedd 19 oed.

(4)Os yw’r corff llywodraethu, tra bo hysbysiad o dan yr adran hon mewn grym, yn hysbysu’r awdurdod lleol ei fod yn anabl neu’n anfodlon rhedeg yr ysgol hyd nes y bydd yr hysbysiad yn dirwyn i ben, mae’r awdurdod—

(a)yn cael rhedeg yr ysgol am y cyfan neu ran o gyfnod yr hysbysiad nad yw wedi dirwyn i ben fel petai’n ysgol gymunedol, a

(b)yn meddu ar hawl i ddefnyddio mangre’r ysgol yn ddi-dâl at y diben hwnnw.

(5)Tra bo’r ysgol yn cael ei rhedeg felly—

(a)rhaid i’r awdurdod gadw mangre’r ysgol mewn cyflwr da, a

(b)mae unrhyw fuddiant yn y fangre a ddelir at ddibenion yr ysgol i’w drin, at bob diben sy’n ymwneud â chyflwr y fangre, ei meddiannu neu ei defnyddio, neu wneud newidiadau iddi, fel buddiant sydd wedi ei freinio yn yr awdurdod.

(6)Er gwaethaf is-adran (5) caiff y corff llywodraethu ddefnyddio’r fangre, neu unrhyw ran ohoni, pan nad oes ei hangen at ddibenion yr ysgol i’r un graddau â phetai wedi parhau i redeg yr ysgol yn ystod cyfnod yr hysbysiad nad oedd wedi dirwyn i ben.

(7)Ni chaniateir i hysbysiad o dan is-adran (1) gael ei dynnu’n ôl heb gydsyniad yr awdurdod lleol.

(8)Os yw ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol wedi ei therfynu o dan yr adran hon, mae dyletswydd yr awdurdod lleol i gynnal yr ysgol fel ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol yn peidio.

(9)Nid oes dim yn adran 43 yn gymwys mewn perthynas â therfynu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol o dan yr adran hon.

(10)Mae is-adran (11) yn gymwys—

(a)pan fo tir sydd wedi ei feddiannu gan yr ysgol yn cael ei ddal gan unrhyw ymddiriedolwyr at ddibenion yr ysgol,

(b)pan fo’r ymddiriedolwyr (a hwythau â’r hawl i wneud hynny) yn bwriadu rhoi hysbysiad i gorff llywodraethu’r ysgol i derfynu meddiannaeth yr ysgol ar y tir hwnnw, ac

(c)pan fyddai terfynu meddiannaeth yr ysgol ar y tir hwnnw yn arwain at y canlyniad nad oedd yn rhesymol ymarferol i’r ysgol barhau i gael ei rhedeg ar ei safle presennol.

(11)Rhaid i’r hysbysiad y mae’r ymddiriedolwyr yn ei roi i’r corff llywodraethu i derfynu meddiannaeth yr ysgol ar y tir gael ei roi o leiaf ddwy flynedd ymlaen llaw; ond os, yn ystod y ddeuddeng mis cyntaf o gyfnod yr hysbysiad hwnnw, yw’r corff llywodraethu yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (1), nid yw hysbysiad yr ymddiriedolwyr yn cael yr effaith o derfynu meddiannaeth yr ysgol ar y tir hyd nes i hysbysiad y corff llywodraethu ddod i ben.

(12)Rhaid i gopi o hysbysiad yr ymddiriedolwyr hefyd gael ei roi i Weinidogion Cymru a’r awdurdod lleol adeg rhoi’r hysbysiad i’r corff llywodraethu.

(13)Pan fo ymddiriedolwyr yn rhoi, yr un (neu i raddau helaeth yr un) pryd, hysbysiadau sy’n honni terfynu meddiannaeth ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol ar ddau neu fwy o ddarnau o dir sy’n cael eu dal gan yr ymddiriedolwyr at ddibenion yr ysgol, yna er mwyn penderfynu a yw is-adran (10)(c) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw un neu rai o’r darnau hynny o dir, caniateir i ystyriaeth gael ei rhoi i effaith gyfun terfynu meddiannaeth yr ysgol ar y ddau neu’r cyfan ohonynt.

(14)Os bydd cwestiwn yn codi ynghylch a fyddai terfynu meddiannaeth ysgol ar unrhyw dir yn arwain at y canlyniad a grybwyllwyd yn is-adran (10)(c) (gan gynnwys cwestiwn ynghylch a yw is-adran (13) yn gymwys mewn unrhyw amgylchiadau penodol), mae i’w benderfynu gan Weinidogion Cymru.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1A. 80 wedi ei addasu (22.5.2014) gan Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1132), rhlau. 1(1), 58(5)

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 80 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I6A. 80 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(e) (ynghyd ag ergl. 4)

81Cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol bod ysgol arbennig gymunedol yn cael ei therfynuLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod lleol i derfynu ysgol arbennig gymunedol a gynhelir ganddo ar ddiwrnod penodedig, os ydynt yn credu ei bod yn hwylus gwneud hynny er iechyd, diogelwch neu les disgyblion yn yr ysgol.

(2)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol hysbysu personau penodedig neu ddosbarth penodedig ar bersonau.

(3)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)yr awdurdod lleol,

(b)unrhyw awdurdod lleol arall y byddai terfynu’r ysgol yn effeithio arno yn eu barn hwy, ac

(c)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(4)Wrth roi cyfarwyddyd o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarwyddyd i gorff llywodraethu’r ysgol a’i phennaeth.

(5)Rhaid i awdurdod lleol y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan is-adran (1) derfynu’r ysgol o dan sylw ar y dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.

(6)Nid oes dim yn adran 44 sy’n gymwys i derfynu ysgol o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 81 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I8A. 81 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(e) (ynghyd ag ergl. 4)

82Gorchmynion esemptio trosiannol at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i gynigion bod ysgol yn peidio â bod yn ysgol un rhyw.

(2)Mae gwneud cynigion o’r fath o dan adran 59, 68 neu 71 i’w drin fel cais gan y corff sy’n gyfrifol i Weinidogion Cymru am orchymyn esemptio trosiannol o dan Ddeddf 2010, a chaiff Gweinidogion Cymru wneud gorchymyn o’r fath yn unol â hynny.

(3)Yn yr adran hon—

  • mae i “y corff sy’n gyfrifol” yr un ystyr â (“the responsible body”) yn adran 85 o Ddeddf 2010;

  • ystyr “Deddf 2010” (“the 2010 Act”) yw Deddf Cydraddoldeb 2010;

  • mae i “gorchymyn esemptio trosiannol” yr un ystyr â (“transitional exemption order”) ym mharagraff 3 o Atodlen 11 i Ddeddf 2010;

  • mae “gwneud”(“make”), mewn perthynas â gorchymyn esemptio trosiannol, yn cynnwys amrywio neu ddirymu;

  • mae i “ysgol un rhyw” yr un ystyr â (“single-sex school”) ym mharagraff 1 o Atodlen 11 i Ddeddf 2010.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 82 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I10A. 82 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(e) (ynghyd ag ergl. 4)

83Dehongli Rhan 3LL+C

(1)Yn y Rhan hon—

  • ystyr “pwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion” (“powers to make proposals to establish, alter or discontinue schools”) yw’r cyfan neu unrhyw rai o bwerau awdurdod lleol i wneud cynigion o dan adran 41, 42, 43 neu 44;

  • ystyr “pwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol” (“powers to make proposals to alter its school”), mewn perthynas â chorff llywodraethu ysgol sefydledig neu wirfoddol, yw ei bwerau i wneud cynigion o dan adran 42(2).

(2)Mae cyfeiriad yn y Rhan hon at gategori ysgol yn golygu un o’r categorïau a nodir yn adran 20(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (ac mae cyfeiriadau at newid categori i’w darllen yn unol â hynny).

(3)Mae cyfeiriad yn y Rhan hon at derfynu ysgol a gynhelir yn gyfeiriad at yr awdurdod lleol yn peidio â’i chynnal.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 83 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I12A. 83 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(e) (ynghyd ag ergl. 4)

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources