RHAN 5SWYDDOGAETHAU AMRYWIOL YSGOLION
Cwnsela mewn ysgolion
I192Gwasanaethau cwnsela annibynnol ar gyfer disgyblion ysgol a phlant eraill
1
Rhaid i awdurdod lleol sicrhau darpariaeth resymol ar gyfer gwasanaeth sy’n cwnsela mewn cysylltiad ag anghenion iechyd, anghenion emosiynol ac anghenion cymdeithasol (“gwasanaeth cwnsela annibynnol”) i’r canlynol—
a
disgyblion cofrestredig sy’n cael addysg uwchradd—
i
mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod, a
ii
mewn ysgolion eraill yn ei ardal;
b
personau eraill sy’n perthyn i ardal yr awdurdod ac sydd wedi cyrraedd 11 oed ond nid 19 oed;
c
disgyblion cofrestredig sy’n ymgymryd â blwyddyn academaidd olaf eu haddysg gynradd—
i
mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod, a
ii
mewn ysgolion eraill yn ei ardal;
d
y personau eraill sy’n cael addysg gynradd a bennir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau.
2
Wrth sicrhau bod gwasanaeth cwnsela annibynnol yn cael ei ddarparu o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol roi sylw—
a
i’r egwyddor bod y gwasanaeth i fod yn annibynnol ar—
i
corff llywodraethu neu berchennog arall ysgol lle y mae person y darperir y gwasanaeth iddo yn cael addysg, a
ii
rheolwyr ysgol lle y mae person y darperir y gwasanaeth iddo yn cael addysg;
b
i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
3
Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod gwasanaeth cwnsela annibynnol yn cael ei ddarparu ar safle pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod sy’n darparu addysg uwchradd (p’un a yw’n darparu mathau eraill o addysg hefyd ai peidio).
4
Caiff awdurdod lleol sicrhau bod gwasanaeth cwnsela annibynnol yn cael ei ddarparu mewn mannau eraill.
5
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i wasanaeth cwnsela annibynnol gael ei ddarparu mewn mannau eraill.
I293Gwybodaeth am wasanaethau cwnsela annibynnol eraill
1
Rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru i’r awdurdod i wneud y canlynol—
a
crynhoi gwybodaeth am y gwasanaeth cwnsela annibynnol y mae’n ei sicrhau o dan adran 92;
b
darparu gwybodaeth am y gwasanaeth hwnnw i Weinidogion Cymru.
2
Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) gynnwys arweiniad i grynhoi neu ddarparu gwybodaeth mewn modd, ac ar adeg, a bennir yn y cyfarwyddyd.
3
Ni chaniateir i gyfarwyddyd o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol—
a
darparu gwybodaeth am unigolyn dynodedig;
b
darparu gwybodaeth mewn modd sydd, naill ai ar ei phen ei hun, neu mewn cyfuniad ag unrhyw wybodaeth arall, yn dynodi unrhyw unigolyn y mae’n ymwneud ag ef neu sy’n galluogi’r unigolyn hwnnw i gael ei ddynodi.
4
Os nad yr awdurdod lleol yw’r person sy’n darparu gwasanaeth cwnsela annibynnol—
a
rhaid i’r awdurdod lleol roi i’r person sy’n darparu’r gwasanaeth gopi o unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (1), a
b
rhaid i’r person sy’n darparu’r gwasanaeth grynhoi’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r cyfarwyddyd, a’i darparu i’r awdurdod lleol mewn modd nad yw’n dynodi’r unigolion y mae’n ymwneud â hwy, nac yn ei gwneud yn bosibl iddynt gael eu dynodi (naill ai ar ei phen ei hun neu mewn cyfuniad â gwybodaeth arall).
5
O ran cyfarwyddyd o dan yr adran hon—
a
rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
b
caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd diweddarach;
c
gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais Gweinidogion Cymru neu ar eu rhan.