RHAN 5SWYDDOGAETHAU AMRYWIOL YSGOLION

Cyfarfodydd rhieni

I294Dyletswydd corff llywodraethu ysgol a gynhelir i gynnal cyfarfodydd yn dilyn deiseb gan rieni

1

Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gynnal cyfarfod (“y cyfarfod”) os yw’n cael deiseb gan rieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol yn gofyn am gyfarfod a’i fod wedi cael ei fodloni bod pob un o’r pedwar amod canlynol wedi ei fodloni.

2

Yr amod cyntaf yw bod y ddeiseb yn cynnwys llofnodion y nifer gofynnol o rieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol.

3

Y nifer gofynnol o rieni yw’r isaf o’r canlynol—

a

rhieni 10% o ddisgyblion cofrestredig, neu

b

rhieni 30 disgybl cofrestredig.

4

At ddibenion is-adran (3), mae nifer y disgyblion cofrestredig i’w gyfrifo drwy gyfeirio at nifer y disgyblion cofrestredig ar y diwrnod y ceir y ddeiseb.

5

Yr ail amod yw bod y cyfarfod y gofynnir amdano yn un at ddibenion trafod mater sy’n ymwneud â’r ysgol.

6

Y trydydd amod, pe bai cyfarfod yn cael ei gynnal, yw na ddylid cynnal mwy na thri chyfarfod o dan yr adran hon yn ystod y flwyddyn ysgol y ceir y ddeiseb.

7

Y pedwerydd amod yw bod digon o ddiwrnodau ysgol ar ôl yn y flwyddyn ysgol i gydymffurfio â’r gofyniad yn is-adran (8).

8

Rhaid i’r gyfarfod gael ei gynnal cyn diwedd cyfnod o 25 o ddiwrnodau.

9

At ddibenion is-adran (8)—

a

mae’r cyfnod o 25 o ddiwrnodau yn dechrau ar y diwrnod cyntaf ar ôl y diwrnod y ceir y ddeiseb (yn ddarostyngedig i is-adran (10)), a

b

nid yw’r cyfnod o 25 o ddiwrnodau yn cynnwys unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod ysgol.

10

Os cynhelir cyfarfod arall y mae’n ofynnol ei gynnal o dan yr adran hon o ganlyniad i ddeiseb wahanol (“y cyfarfod arall”) ar ddiwrnod yn ystod y cyfnod o 25 o ddiwrnodau yn is-adran (9), ond cyn y diwrnod y cynhelir y cyfarfod, bydd y cyfnod o 25 o ddiwrnodau yn dechrau ar y diwrnod cyntaf ar ôl y diwrnod y cynhelir y cyfarfod arall.

11

Mae’r cyfarfod i fod yn agored i’r canlynol—

a

rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol,

b

y pennaeth, ac

c

personau eraill a wahoddir gan y corff llywodraethu.

12

Rhaid i’r corff llywodraethu, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael deiseb sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynnal cyfarfod, ysgrifennu at rieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol i’w hysbysu am ddyddiad y cyfarfod a’r mater sydd i’w drafod.

13

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon, rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

Annotations:
Commencement Information
I2

A. 94 mewn grym ar 4.5.2013, gweler a. 100(3)

I195Diddymu dyletswydd i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni

Mae adran 33 o Ddeddf Addysg 2002 wedi ei diddymu.