Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

Effaith ar atal dros dro gyllideb ddirprwyedigLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

12(1)Os nad oes gan yr ysgol, yn union cyn y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 7 neu 14, gyllideb ddirprwyedig, mae ataliad dros dro ar hawl y corff llywodraethu i gael cyllideb ddirprwyedig wedi ei ddirymu yn rhinwedd yr is-baragraff hwn o’r dyddiad hwnnw.

(2)Os yw hysbysiad o dan baragraff 1 o Atodlen 15 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (atal cyllideb ddirprwyedig dros dro am gamreoli etc) wedi ei roi i’r corff llywodraethu cyn y dyddiad a bennwyd mewn hysbysiad o dan adran 7 neu 14 ond nad yw wedi dod yn weithredol eto, mae effaith yr hysbysiad yn peidio ar y dyddiad hwnnw.

(3)Yn ystod y cyfnod interim, ni chaiff yr awdurdod lleol arfer y pŵer a roddir gan adran 8 (pŵer i atal dros dro hawl i gael cyllideb ddirprwyedig).

(4)Mae is-baragraff (1) i’w ddehongli’n unol ag adran 49(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)