Sefydlu corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normalLL+C
17(1)Pan fo aelodau gweithrediaeth interim i adael eu swydd ar y dyddiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 16(1)(b) neu (c), rhaid i’r awdurdod lleol wneud trefniadau sy’n darparu ar gyfer cyfansoddi’r corff llywodraethu ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud, drwy reoliadau, ddarpariaeth ynglyn â’r trosi o fwrdd gweithrediaeth interim i gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal, a chânt, mewn cysylltiad â’r trosi hwnnw—
(a)addasu unrhyw ddarpariaeth a wnaed o dan unrhyw un neu rai o adrannau 19, 20 a 23 o Ddeddf Addysg 2002 neu gan Atodlen 1 i’r Ddeddf honno,
(b)cymhwyso unrhyw ddarpariaeth o’r fath gydag addasiadau neu hebddynt, ac
(c)gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i unrhyw ddarpariaeth o’r fath neu’n gyffelyb iddi.
(3)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd is-baragraff (2) yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, ddarpariaeth sy’n galluogi llywodraethwyr i gael eu hethol neu eu penodi, ac i arfer swyddogaethau, cyn diwedd y cyfnod interim.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)