ATODLEN 2NEWIDIADAU RHEOLEIDDIEDIG

RHAN 5YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR

I1I223Y man addysgu

1

Ehangu’r man addysgu, ac eithrio ehangu dros dro, gan 50% neu fwy.

2

Gwneud ehangu dros dro y man addysgu gan 50% neu fwy yn ehangu parhaol.

3

Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “man addysgu” (“teaching space”) yw unrhyw fan a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer darparu addysg feithrin ac eithrio’r canlynol—

    1. a

      unrhyw fan a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer addysg disgyblion y mae eu hanghenion addysgol yn cael eu F1hasesu o dan adran 323 o Ddeddf Addysg 1996 a disgyblion sydd â datganiadau anghenion addysgol arbennig a gedwir o dan adran 324 o’r Ddeddf honnoF1penderfynu o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a disgyblion â chynlluniau datblygu unigol a gynhelir o dan y Ddeddf honno;

    2. b

      unrhyw fan a gafodd ei adeiladu, ei addasu neu ei drefnu yn y fath fodd nad yw’n addas at ddibenion addysgu cyffredinol;

    3. c

      unrhyw fan a gafodd ei adeiladu, ei addasu neu ei drefnu yn bennaf ar gyfer storio cyfarpar, offer neu ddeunyddiau a ddefnyddir wrth addysgu;

    4. d

      unrhyw ran o ardal y mae ei hangen ar gyfer symudiad disgyblion drwy’r ardal honno ac a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben hwnnw;

  • “ehangu dros dro” (“temporary enlargement”) yw ehangu man addysgu y rhagwelir y bydd yr ehangiad, ar yr adeg y’i gwneir, yn ei le am lai na thair blynedd.