ATODLEN 2NEWIDIADAU RHEOLEIDDIEDIG
RHAN 5YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR
I1I225Cyfrwng iaith
1
Yn achos ysgol y caiff grwp o ddisgyblion ynddi ei addysgu yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, unrhyw newid i’r ysgol fel y byddai pob disgybl yn cael ei addysgu yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Saesneg.
2
Yn achos ysgol y caiff grwp o ddisgyblion ynddi ei addysgu yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Saesneg, unrhyw newid i’r ysgol fel y byddai pob disgybl yn cael ei addysgu yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg.