Ysgolion rhyw gymysg ac ysgolion un rhywLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
3(1)Newid a wneir i ysgol fel a ganlyn—
(a)bod ysgol a oedd yn derbyn disgyblion o un rhyw yn unig yn derbyn disgyblion o’r ddau ryw, neu
(b)bod ysgol a oedd yn derbyn disgyblion o’r ddau ryw yn derbyn disgyblion o un rhyw yn unig.
(2)At ddibenion y paragraff hwn mae ysgol i’w thrin fel un sy’n derbyn disgyblion o un rhyw yn unig os yw trefn derbyn disgyblion o’r rhyw arall—
(a)yn gyfyngedig i ddisgyblion dros oedran ysgol gorfodol; a
(b)heb fod yn fwy na 25% o nifer y disgyblion yn y grwp oedran a dan sylw sydd fel arfer yn yr ysgol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)