RHAN 2LL+CPOB YSGOL A GYNHELIR AR WAHÂN I YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR
4LL+CMae paragraffau 5 i 8 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol ac ysgolion arbennig cymunedol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)
Ystod oedranLL+C
5(1)Newid oedran isaf y disgyblion y darperir addysg iddynt yn arferol yn yr ysgol gan flwyddyn neu fwy.
(2)Newid oedran uchaf y disgyblion y darperir addysg iddynt yn arferol yn yr ysgol gan flwyddyn neu fwy os yw’r ysgol, cyn ac ar ôl y newid, yn darparu addysg sy’n addas i ofynion disgyblion mewn oedran ysgol gorfodol ond heb fod yn darparu addysg sy’n addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I4Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)
Darpariaeth chweched dosbarthLL+C
6(1)Cyflwyno’r ddarpariaeth o addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol mewn ysgol sy’n darparu addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion mewn oedran ysgol gorfodol.
(2)Terfynu’r ddarpariaeth o addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol mewn ysgol sydd i barhau i ddarparu addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion mewn oedran ysgol gorfodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I6Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)
Cyfrwng iaith – addysg gynraddLL+C
7(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer—
(a)ysgolion cynradd,
(b)ysgolion arbennig ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg gynradd i ddisgyblion yn yr ysgolion, ac
(c)ysgolion canol ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg gynradd i ddisgyblion yn yr ysgolion.
(2)Daw newid o fewn y paragraff hwn os yw addysgu dosbarth o ddisgyblion mewn grwp oedran (neu grwpiau oedran) mewn ysgol yn dod o fewn disgrifiad mewn cofnod yng ngholofn 1 o dabl 1 isod, ac os cynigir newid addysgu’r dosbarth cyfatebol o ddisgyblion yn y grwp oedran hwnnw (neu’r grwpiau oedran hynny) fel ei fod yn dod o fewn y disgrifiad yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2.
(3)Yn y paragraff hwn—
(a)ystyr “grwp oedran” yw—
(i)grwp blwyddyn o’r cyfnod sylfaen (o fewn yr ystyr a roddir i “foundation phase” gan adran 102 o Ddeddf Addysg 2002), neu
(ii)grwp blwyddyn o’r ail gyfnod allweddol (o fewn yr ystyr a roddir i “second key stage” gan adran 103 o Ddeddf Addysg 2002);
(b)nid yw cyfeiriad at addysgu dosbarth o ddisgyblion yn cynnwys gwasanaeth ysgol na gweithgareddau eraill mewn ysgol a gynhelir fel arfer gyda grwpiau mawr o ddisgyblion.
TABL 1
1 | 2 |
---|---|
Mae o leiaf 20% ond dim mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg | Cynnydd neu leihad o fwy na 20% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg |
Mae o leiaf 20% ond dim mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg | Cynnydd neu leihad o fwy na 20% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg |
Mae mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg, ac mae rhywfaint o addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg | Cynnydd o fwy na 10% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg |
Mae mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae rhywfaint o addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg | Cynnydd o fwy na 10% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg |
Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg | Cynhelir mwy na 10% o’r addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg |
Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Saesneg | Cynhelir mwy na 10% o’r addysgu drwy gyfrwng y Saesneg |
Cynhelir rhywfaint o addysgu drwy gyfrwng y Saesneg | Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Saesneg |
Cynhelir rhywfaint o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg | Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg |
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I8Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)
Cyfrwng iaith – addysg uwchraddLL+C
8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer—
(a)ysgolion uwchradd,
(b)ysgolion arbennig ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg uwchradd i ddisgyblion yn yr ysgolion, ac
(c)ysgolion canol ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg uwchradd i ddisgyblion yn yr ysgolion.
(2)Daw newid o fewn y paragraff hwn os yw addysgu disgyblion mewn grwp blwyddyn mewn ysgol yn dod o fewn disgrifiad mewn cofnod yng ngholofn 1 o dabl 2 isod, ac os cynigir newid addysgu’r disgyblion yn y grwp blwyddyn hwnnw fel ei fod yn dod o fewn y disgrifiad yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2.
(3)Yn y paragraff hwn “pwnc perthnasol” yw unrhyw bwnc ar wahân i Gymraeg a Saesneg a addysgir yn yr ysgol i ddisgyblion yn y grwp blwyddyn o dan sylw.
TABL 2
1 | 2 |
---|---|
Addysgir pump neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl | Lleihad o bedwar neu ragor o’r pynciau perthnasol a addysgir (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl |
Addysgir pump neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl | Lleihad o bedwar neu ragor o’r pynciau perthnasol a addysgir (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl |
Addysgir pob pwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i bob disgybl | Addysgir tri neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl |
Addysgir pob pwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i bob disgybl | Addysgir tri neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl |
Addysgir un neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl | Nid addysgir unrhyw bwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl |
Addysgir un neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl | Nid addysgir unrhyw bwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl |
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I10Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)