RHAN 4YSGOLION ARBENNIG
18Mae paragraffau 19 i 21 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion arbennig cymunedol.
Cynnydd yn nifer disgyblion
19(1)Ac eithrio pan fo ysgol wedi ei sefydlu mewn ysbyty, cynnydd yn nifer y disgyblion y mae’r ysgol yn gwneud darpariaeth ar eu cyfer, a fyddai o’i gymryd ynghyd â phob cynnydd blaenorol ar ôl y dyddiad priodol, yn cynyddu nifer y disgyblion gan o leiaf 10% neu gan y nifer perthnasol o’i gymharu â nifer y disgyblion ar y dyddiad priodol.
(2)Yn y paragraff hwn—
y “dyddiad priodol” (“appropriate date”) yw’r diweddaraf o’r canlynol—
(a)19 Ionawr 2012;
(b)y dyddiad pan dderbyniodd yr ysgol ddisgyblion gyntaf;
(c)dyddiad (neu ddyddiad diweddaraf) gweithredu cynigion i wneud newid i’r ysgol i gynyddu nifer y disgyblion y mae’r ysgol yn darparu ar eu cyfer ac y cyhoeddwyd y cynigion hynny o dan y canlynol—
(i)adran 48, 59, 68 neu 72, neu
(ii)adran 31 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 neu baragraff 5 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno; ac
“y nifer perthnasol” (“relevant number”) mewn perthynas â nifer y disgyblion mewn ysgol yw—
(a)pan fo’r ysgol yn darparu llety byrddio yn unig, 5, a
(b)ym mhob achos arall, 20.
Darpariaeth fyrddio
20Newid y ddarpariaeth ar gyfer llety byrddio fel bod y nifer o ddisgyblion y gwneir darpariaeth o’r fath ar eu cyfer yn cael ei gynyddu neu ei leihau gan 5 disgybl neu ragor.
Darpariaeth anghenion addysgol arbennig
21Newid yn y math o anghenion addysgol arbennig y trefnwyd yr ysgol i wneud darpariaeth ar ei gyfer.