xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CNEWIDIADAU RHEOLEIDDIEDIG

RHAN 5LL+CYSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR

22LL+CMae paragraffau 23 i 25 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion meithrin a gynhelir.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Y man addysguLL+C

23(1)Ehangu’r man addysgu, ac eithrio ehangu dros dro, gan 50% neu fwy.

(2)Gwneud ehangu dros dro y man addysgu gan 50% neu fwy yn ehangu parhaol.

(3)Yn y paragraff hwn—

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I4Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Anghenion addysgol arbennigLL+C

24(1)Sefydlu darpariaeth neu ddirwyn darpariaeth i ben a gydnabyddir gan yr awdurdod lleol yn ddarpariaeth a gadwyd yn ôl ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig.

(2)Os oes darpariaeth a gydnabyddir gan yr awdurdod lleol yn ddarpariaeth a gadwyd yn ôl ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig, newid yn y math o’r cyfryw ddarpariaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I6Atod. 2 para. 24 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Cyfrwng iaithLL+C

25(1)Yn achos ysgol y caiff grwp o ddisgyblion ynddi ei addysgu yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, unrhyw newid i’r ysgol fel y byddai pob disgybl yn cael ei addysgu yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Saesneg.

(2)Yn achos ysgol y caiff grwp o ddisgyblion ynddi ei addysgu yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Saesneg, unrhyw newid i’r ysgol fel y byddai pob disgybl yn cael ei addysgu yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I8Atod. 2 para. 25 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)