xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Cyflwynwyd gan adran 55)
1Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon—
(a)ystyr “cynigion” yw cynigion sydd i’w gweithredu o dan adran 55;
(b)mae cyfeiriad at awdurdod lleol mewn perthynas ag ysgol neu ysgol arfaethedig yn gyfeiriad at yr awdurdod lleol sy’n cynnal neu a fydd yn cynnal yr ysgol honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(g)
2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion ynghylch ysgol gymunedol neu ysgol feithrin a gynhelir neu ysgol gymunedol arfaethedig neu ysgol feithrin a gynhelir sy’n arfaethedig.
(2)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 41, 42 neu 43 gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I4Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(g)
3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion ynghylch ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol wirfoddol a reolir sy’n arfaethedig.
(2)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 41(2) neu 43(1)(a) gael eu gweithredu gan yr awdurdod.
(3)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 42(1)(b) neu (c) gael eu gweithredu gan yr awdurdod a chan y corff llywodraethu i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.
(4)Rhaid i gynigion a wneir o dan adran 41(2) (nas gwneir gan awdurdod lleol) gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol a chan y person a wnaeth y cynigion i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.
(5)Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 42(2) gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol a’r corff llywodraethu i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.
(6)Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 43(2) gael eu gweithredu gan y corff llywodraethu a chan yr awdurdod lleol.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I6Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(g)
4(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion ynghylch ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir sy’n arfaethedig.
(2)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 42(1)(b) neu (c) gael eu gweithredu—
(a)i’r graddau y maent yn ymwneud â darparu mangre berthnasol i’r ysgol, gan yr awdurdod lleol, a
(b)fel arall gan yr awdurdod a’r corff llywodraethu i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.
(3)Rhaid i gynigion a wneir o dan adran 41(2) gael eu gweithredu—
(a)os yr awdurdod lleol yw’r cynigydd, gan yr awdurdod lleol, a
(b)os nad yr awdurdod lleol yw’r cynigydd—
(i)i’r graddau y maent yn ymwneud â darparu mangre berthnasol i’r ysgol, gan yr awdurdod lleol, a
(ii)fel arall gan y person a wnaeth y cynigion.
(4)Nid oes dim sydd yn is-baragraff (3)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddarparu mangre berthnasol—
(a)pan fo’r ysgol newydd wirfoddol a gynorthwyir i’w sefydlu yn lle un neu ragor o ysgolion annibynnol, sefydledig neu wirfoddol sy’n rhai presennol ac sydd i’w terfynu ar neu cyn dyddiad gweithredu’r cynigion, a
(b)pan oedd y fangre honno yn rhan o fangre unrhyw un neu rai o’r ysgolion presennol ond na chafodd ei darparu gan yr awdurdod.
(5)Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 42(2) gael eu gweithredu—
(a)i’r graddau y maent yn ymwneud â darparu mangre berthnasol i’r ysgol, gan yr awdurdod lleol, a
(b)fel arall gan y corff llywodraethu.
(6)Ystyr “mangre berthnasol” yw—
(a)caeau chwarae, neu
(b)adeiladau sydd i ffurfio rhan o fangre’r ysgol ond nad ydynt i fod yn adeiladau ysgol.
(7)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 43(1) gael eu gweithredu gan yr awdurdod.
(8)Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 43(2) gael eu gweithredu gan y corff llywodraethu a chan yr awdurdod lleol.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I8Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(g)
5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion ynghylch ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig gymunedol arfaethedig.
(2)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 44 gael eu gweithredu gan yr awdurdod.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I10Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(g)
6Os bydd ysgol yn newid categori o ysgol gymunedol ar ôl i gynigion cael eu cyhoeddi o dan adran 48 ond cyn iddynt gael eu gweithredu, rhaid i’r cynigion (i’r graddau na chawsant eu gweithredu) gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol (er gwaethaf paragraffau 3 a 4).
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I12Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(g)
7(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff 3(2), (3), (4) neu (5) ddarparu safle i ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a reolir, neu ysgol wirfoddol a reolir sy’n arfaethedig.
(2)Rhaid i’r awdurdod drosglwyddo ei fuddiant yn y safle ac yn unrhyw adeiladau sydd ar y safle sydd i ffurfio rhan o fangre’r ysgol—
(a)i ymddiriedolwyr yr ysgol, i’w ddal ganddynt ar ymddiried at ddibenion yr ysgol, neu
(b)os nad oes ymddiriedolwyr gan yr ysgol, i gorff sefydledig yr ysgol neu (yn absenoldeb corff o’r fath) i’r corff llywodraethu, i’w ddal gan y corff hwnnw at y dibenion perthnasol.
(3)Os bydd unrhyw amheuaeth neu anghydfod yn codi o ran y personau y mae’n ofynnol i’r awdurdod wneud y trosglwyddiad iddynt, rhaid iddo gael ei wneud i’r personau hynny y mae Gweinidogion Cymru’n barnu eu bod yn briodol.
(4)Rhaid i’r awdurdod dalu i’r personau y gwneir y trosglwyddiad iddynt eu costau rhesymol mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad.
(5)Mae is-baragraff (6) yn gymwys—
(a)pan fo trosglwyddiad yn cael ei wneud o dan y paragraff hwn, a
(b)pan fo’r trosglwyddiad yn cael ei wneud i bersonau (“y trosglwyddeion”) y mae ganddynt unrhyw swm, neu sydd â hawl ganddynt iddo neu y gellid bod ganddynt yr hawl iddo, sef swm sy’n cynrychioli’r enillion ar werthiant mangre arall a gafodd ei defnyddio at ddibenion yr ysgol.
(6)Rhaid i’r trosglwyddeion hysbysu’r awdurdod lleol bod is-baragraff (5)(b) yn gymwys iddynt a rhaid iddynt hwy neu eu holynwyr dalu i’r awdurdod lleol gymaint o’r swm hwnnw, gan roi sylw i werth y buddiant a drosglwyddwyd, ag y benderfynir ei fod yn gyfiawn, naill ai drwy gytundeb rhyngddynt hwy a’r awdurdod neu, yn niffyg cytundeb, gan Weinidogion Cymru.
(7)Yn is-baragraff (5)(b) mae’r cyfeiriad at enillion ar werthiant mangre arall yn cynnwys cyfeiriad at y canlynol—
(a)cydnabyddiaeth am greu neu am waredu unrhyw fath o fuddiant mewn mangre arall, gan gynnwys rhent, a
(b)unrhyw log sydd wedi cronni mewn perthynas â chydnabyddiaeth o’r fath.
(8)Mae unrhyw swm a delir o dan is-baragraff (6) i’w drin at ddibenion adran 14 o Ddeddf Safleoedd Ysgolion 1841 (sy’n ymwneud â gwerthu neu gyfnewid tir sy’n cael ei ddal ar ymddiried at ddibenion ysgol) fel swm a ddefnyddir at brynu safle i’r ysgol.
(9)Caniateir i benderfyniad gael ei wneud o dan is-baragraff (6) mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo sy’n ddarostyngedig i ymddiriedolaeth sydd wedi codi o dan adran 1 o Ddeddf Dychweliad Safleoedd 1987 (hawl dychweliad yn cael ei disodli gan ymddiried i werthu) —
(a)os gwneir y penderfyniad gan Weinidogion Cymru (a dim ond bryd hynny), a
(b)maent wedi eu bodloni (a dim ond bryd hynny) bod camau wedi eu cymryd i amddiffyn buddiannau’r buddiolwyr o dan yr ymddiriedolaeth.
(10)Mae is-baragraff (6) yn gymwys at ddibenion digolledu’r awdurdod a hysbysir o dan yr is-baragraff hwnnw mewn perthynas yn unig â’r rhan honno o’r swm a grybwyllir yn isbaragraff (5)(b) (os oes un) sy’n weddill ar ôl cymhwyso paragraffau 1 i 3 o Atodlen 22 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (gwaredu tir - ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol ac ysgolion arbennig sefydledig) i’r swm hwnnw.
(11)Yn y paragraff hwn—
ystyr “y dibenion perthnasol” (“the relevant purposes”) yw—
mewn perthynas â throsglwyddiad i gorff sefydledig ysgol, dibenion yr ysgolion sy’n ffurfio’r grwp y mae’r corff hwnnw’n gweithredu drosto, neu
mewn perthynas â throsglwyddiad i gorff llywodraethu ysgol, dibenion yr ysgol;
nid yw “safle” (“site”) yn cynnwys caeau chwarae ond fel arall mae’n cynnwys unrhyw safle sydd i ffurfio rhan o fangre’r ysgol o dan sylw.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I14Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(g)
8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan fo’n ofynnol i gorff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn rhinwedd paragraff 4(5) i weithredu cynigion i wneud newid rheoleiddiedig i’r ysgol, neu
(b)pan fo’n ofynnol i berson yn rhinwedd paragraff 4(3)(b) i weithredu cynigion i sefydlu ysgol newydd wirfoddol a gynorthwyir.
(2)Mae paragraff 5 o Atodlen 3 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (grantiau i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir mewn cysylltiad â gwariant ar fangre neu gyfarpar)—
(a)yn gymwys mewn perthynas â’r ysgol a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a), a
(b)yn gymwys mewn perthynas â’r ysgol newydd a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b) fel y mae’n gymwys mewn perthynas ag ysgol bresennol sy’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir.
(3)Wrth gymhwyso’r paragraff hwnnw mewn perthynas ag ysgol newydd wirfoddol a gynorthwyir—
(a)mae cyfeiriadau at y corff llywodraethu, mewn perthynas ag unrhyw adeg cyn i’r corff llywodraethu gael ei gyfansoddi, yn gyfeiriadau at y person a wnaeth y cynigion o dan adran 41(2), a
(b)pan osodir gofynion mewn perthynas a grant a delir yn rhinwedd y paragraff hwn i’r person a wnaeth y cynigion, rhaid i gorff llywodraethu, pan gyfansoddir ef, yn ogystal â’r person hwnnw, gydymffurfio â’r gofynion.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 3 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I16Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(g)
9Caiff awdurdod lleol roi i gorff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir y cymorth y gwêl yr awdurdod yn dda i’w roi pan fo’r corff llywodraethu’n cyflawni unrhyw rwymedigaeth sy’n codi yn rhinwedd paragraff 4(5) mewn perthynas â chynigion a wnaed ganddo o dan adran 42(2).
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 3 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I18Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(g)
10Caiff awdurdod lleol roi i’r personau y mae’n ofynnol iddynt yn rhinwedd paragraff 4(3) (b) i weithredu cynigion i sefydlu ysgol wirfoddol a gynorthwyir y cymorth y gwêl yn dda i’w roi pan fo’r personau hynny’n cyflawni unrhyw rwymedigaeth sy’n codi yn rhinwedd y paragraff hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 3 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I20Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(g)
11(1)Pan fo cymorth o dan baragraff 9 neu 10 yn golygu darparu unrhyw fangre i’w defnyddio at ddibenion ysgol, rhaid i’r awdurdod leol drosglwyddo ei fuddiant yn y fangre—
(a)i ymddiriedolwyr yr ysgol i’w ddal ar ymddiried at ddibenion yr ysgol, neu
(b)os nad oes ymddiriedolwyr gan yr ysgol, i gorff sefydledig yr ysgol, i’w ddal gan y corff hwnnw at ddibenion yr ysgolion sy’n ffurfio’r grwp y mae’r corff hwnnw’n gweithredu drosto.
(2)Os bydd unrhyw amheuaeth neu anghydfod yn codi o ran y personau y mae’n ofynnol i’r awdurdod wneud y trosglwyddiad iddynt, rhaid iddo gael ei wneud i’r personau hynny y mae Gweinidogion Cymru’n barnu eu bod yn briodol.
(3)Rhaid i’r awdurdod dalu i’r personau y gwneir y trosglwyddiad iddynt eu costau rhesymol mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 3 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I22Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(g)
12(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion i wneud newid rheoleiddiedig a ddisgrifir ym mharagraff 3(1)(a) o Atodlen 2 (ysgol i beidio â bod yn un sy’n derbyn disgyblion o un rhyw yn unig).
(2)Mae is-baragraff (3) yn gymwys pan wneir cynigion o’r fath o dan adran 42 neu 44 ac, yn unol ag adran 48(4), pan fo’r cynigydd yn anfon copi o’r cynigion wedi eu cyhoeddi at Weinidogion Cymru.
(3)Mae anfon y cynigion wedi eu cyhoeddi i Weinidogion Cymru i’w drin fel cais gan y cynigydd am orchymyn esemptio trosiannol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a chaniateir i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn o’r fath yn unol â hynny.
(4)Yn y paragraff hwn—
mae i “gorchymyn esemptio trosiannol” yr ystyr a roddir i (“transitional exemption order”) ym mharagraff 3 o Atodlen 11 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010;
mae “gwneud” (“make”), mewn perthynas â gorchymyn esemptio trosiannol yn cynnwys amrywio neu ddirymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 3 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I24Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(g)