xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 3LL+CGWEITHREDU CYNIGION STATUDOL

RHAN 2LL+CDARPARU MANGREOEDD A CHYMORTH ARALL

Dyletswydd i drosglwyddo buddiant mewn mangre a ddarperir o dan baragraff 9 neu 10LL+C

11(1)Pan fo cymorth o dan baragraff 9 neu 10 yn golygu darparu unrhyw fangre i’w defnyddio at ddibenion ysgol, rhaid i’r awdurdod leol drosglwyddo ei fuddiant yn y fangre—

(a)i ymddiriedolwyr yr ysgol i’w ddal ar ymddiried at ddibenion yr ysgol, neu

(b)os nad oes ymddiriedolwyr gan yr ysgol, i gorff sefydledig yr ysgol, i’w ddal gan y corff hwnnw at ddibenion yr ysgolion sy’n ffurfio’r grwp y mae’r corff hwnnw’n gweithredu drosto.

(2)Os bydd unrhyw amheuaeth neu anghydfod yn codi o ran y personau y mae’n ofynnol i’r awdurdod wneud y trosglwyddiad iddynt, rhaid iddo gael ei wneud i’r personau hynny y mae Gweinidogion Cymru’n barnu eu bod yn briodol.

(3)Rhaid i’r awdurdod dalu i’r personau y gwneir y trosglwyddiad iddynt eu costau rhesymol mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(g)