ATODLEN 3GWEITHREDU CYNIGION STATUDOL
RHAN 2DARPARU MANGREOEDD A CHYMORTH ARALL
I2I18Grantiau mewn cysylltiad â gwariant penodol ynghylch ysgol wirfoddol a gynorthwyir boed hi’n un bresennol neu’n un arfaethedig
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
pan fo’n ofynnol i gorff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn rhinwedd paragraff 4(5) i weithredu cynigion i wneud newid rheoleiddiedig i’r ysgol, neu
b
pan fo’n ofynnol i berson yn rhinwedd paragraff 4(3)(b) i weithredu cynigion i sefydlu ysgol newydd wirfoddol a gynorthwyir.
2
Mae paragraff 5 o Atodlen 3 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (grantiau i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir mewn cysylltiad â gwariant ar fangre neu gyfarpar)—
a
yn gymwys mewn perthynas â’r ysgol a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a), a
b
yn gymwys mewn perthynas â’r ysgol newydd a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b) fel y mae’n gymwys mewn perthynas ag ysgol bresennol sy’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir.
3
Wrth gymhwyso’r paragraff hwnnw mewn perthynas ag ysgol newydd wirfoddol a gynorthwyir—
a
mae cyfeiriadau at y corff llywodraethu, mewn perthynas ag unrhyw adeg cyn i’r corff llywodraethu gael ei gyfansoddi, yn gyfeiriadau at y person a wnaeth y cynigion o dan adran 41(2), a
b
pan osodir gofynion mewn perthynas a grant a delir yn rhinwedd y paragraff hwn i’r person a wnaeth y cynigion, rhaid i gorff llywodraethu, pan gyfansoddir ef, yn ogystal â’r person hwnnw, gydymffurfio â’r gofynion.