ATODLEN 3GWEITHREDU CYNIGION STATUDOL
RHAN 1CYFRIFOLDEB DROS WEITHREDU
I4I21Dehongli
Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon—
a
ystyr “cynigion” yw cynigion sydd i’w gweithredu o dan adran 55;
b
mae cyfeiriad at awdurdod lleol mewn perthynas ag ysgol neu ysgol arfaethedig yn gyfeiriad at yr awdurdod lleol sy’n cynnal neu a fydd yn cynnal yr ysgol honno.
I8I122Cynigion ynghylch ysgolion cymunedol neu ysgolion meithrin a gynhelir
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion ynghylch ysgol gymunedol neu ysgol feithrin a gynhelir neu ysgol gymunedol arfaethedig neu ysgol feithrin a gynhelir sy’n arfaethedig.
2
Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 41, 42 neu 43 gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol.
I3I93Cynigion ynghylch ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a reolir
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion ynghylch ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol wirfoddol a reolir sy’n arfaethedig.
2
Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 41(2) neu 43(1)(a) gael eu gweithredu gan yr awdurdod.
3
Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 42(1)(b) neu (c) gael eu gweithredu gan yr awdurdod a chan y corff llywodraethu i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.
4
Rhaid i gynigion a wneir o dan adran 41(2) (nas gwneir gan awdurdod lleol) gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol a chan y person a wnaeth y cynigion i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.
5
Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 42(2) gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol a’r corff llywodraethu i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.
6
Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 43(2) gael eu gweithredu gan y corff llywodraethu a chan yr awdurdod lleol.
I7I64Cynigion ynghylch ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion ynghylch ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir sy’n arfaethedig.
2
Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 42(1)(b) neu (c) gael eu gweithredu—
a
i’r graddau y maent yn ymwneud â darparu mangre berthnasol i’r ysgol, gan yr awdurdod lleol, a
b
fel arall gan yr awdurdod a’r corff llywodraethu i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.
3
Rhaid i gynigion a wneir o dan adran 41(2) gael eu gweithredu—
a
os yr awdurdod lleol yw’r cynigydd, gan yr awdurdod lleol, a
b
os nad yr awdurdod lleol yw’r cynigydd—
i
i’r graddau y maent yn ymwneud â darparu mangre berthnasol i’r ysgol, gan yr awdurdod lleol, a
ii
fel arall gan y person a wnaeth y cynigion.
4
Nid oes dim sydd yn is-baragraff (3)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddarparu mangre berthnasol—
a
pan fo’r ysgol newydd wirfoddol a gynorthwyir i’w sefydlu yn lle un neu ragor o ysgolion annibynnol, sefydledig neu wirfoddol sy’n rhai presennol ac sydd i’w terfynu ar neu cyn dyddiad gweithredu’r cynigion, a
b
pan oedd y fangre honno yn rhan o fangre unrhyw un neu rai o’r ysgolion presennol ond na chafodd ei darparu gan yr awdurdod.
5
Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 42(2) gael eu gweithredu—
a
i’r graddau y maent yn ymwneud â darparu mangre berthnasol i’r ysgol, gan yr awdurdod lleol, a
b
fel arall gan y corff llywodraethu.
6
Ystyr “mangre berthnasol” yw—
a
caeau chwarae, neu
b
adeiladau sydd i ffurfio rhan o fangre’r ysgol ond nad ydynt i fod yn adeiladau ysgol.
7
Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 43(1) gael eu gweithredu gan yr awdurdod.
8
Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 43(2) gael eu gweithredu gan y corff llywodraethu a chan yr awdurdod lleol.
I11I55Cynigion ynghylch ysgolion arbennig cymunedol
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion ynghylch ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig gymunedol arfaethedig.
2
Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 44 gael eu gweithredu gan yr awdurdod.
I10I16Newid categori
Os bydd ysgol yn newid categori o ysgol gymunedol ar ôl i gynigion cael eu cyhoeddi o dan adran 48 ond cyn iddynt gael eu gweithredu, rhaid i’r cynigion (i’r graddau na chawsant eu gweithredu) gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol (er gwaethaf paragraffau 3 a 4).