ATODLEN 3GWEITHREDU CYNIGION STATUDOL
RHAN 2DARPARU MANGREOEDD A CHYMORTH ARALL
I1I67Darparu safle ac adeiladau i ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a reolir
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff 3(2), (3), (4) neu (5) ddarparu safle i ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a reolir, neu ysgol wirfoddol a reolir sy’n arfaethedig.
2
Rhaid i’r awdurdod drosglwyddo ei fuddiant yn y safle ac yn unrhyw adeiladau sydd ar y safle sydd i ffurfio rhan o fangre’r ysgol—
a
i ymddiriedolwyr yr ysgol, i’w ddal ganddynt ar ymddiried at ddibenion yr ysgol, neu
b
os nad oes ymddiriedolwyr gan yr ysgol, i gorff sefydledig yr ysgol neu (yn absenoldeb corff o’r fath) i’r corff llywodraethu, i’w ddal gan y corff hwnnw at y dibenion perthnasol.
3
Os bydd unrhyw amheuaeth neu anghydfod yn codi o ran y personau y mae’n ofynnol i’r awdurdod wneud y trosglwyddiad iddynt, rhaid iddo gael ei wneud i’r personau hynny y mae Gweinidogion Cymru’n barnu eu bod yn briodol.
4
Rhaid i’r awdurdod dalu i’r personau y gwneir y trosglwyddiad iddynt eu costau rhesymol mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad.
5
Mae is-baragraff (6) yn gymwys—
a
pan fo trosglwyddiad yn cael ei wneud o dan y paragraff hwn, a
b
pan fo’r trosglwyddiad yn cael ei wneud i bersonau (“y trosglwyddeion”) y mae ganddynt unrhyw swm, neu sydd â hawl ganddynt iddo neu y gellid bod ganddynt yr hawl iddo, sef swm sy’n cynrychioli’r enillion ar werthiant mangre arall a gafodd ei defnyddio at ddibenion yr ysgol.
6
Rhaid i’r trosglwyddeion hysbysu’r awdurdod lleol bod is-baragraff (5)(b) yn gymwys iddynt a rhaid iddynt hwy neu eu holynwyr dalu i’r awdurdod lleol gymaint o’r swm hwnnw, gan roi sylw i werth y buddiant a drosglwyddwyd, ag y benderfynir ei fod yn gyfiawn, naill ai drwy gytundeb rhyngddynt hwy a’r awdurdod neu, yn niffyg cytundeb, gan Weinidogion Cymru.
7
Yn is-baragraff (5)(b) mae’r cyfeiriad at enillion ar werthiant mangre arall yn cynnwys cyfeiriad at y canlynol—
a
cydnabyddiaeth am greu neu am waredu unrhyw fath o fuddiant mewn mangre arall, gan gynnwys rhent, a
b
unrhyw log sydd wedi cronni mewn perthynas â chydnabyddiaeth o’r fath.
8
Mae unrhyw swm a delir o dan is-baragraff (6) i’w drin at ddibenion adran 14 o Ddeddf Safleoedd Ysgolion 1841 (sy’n ymwneud â gwerthu neu gyfnewid tir sy’n cael ei ddal ar ymddiried at ddibenion ysgol) fel swm a ddefnyddir at brynu safle i’r ysgol.
9
Caniateir i benderfyniad gael ei wneud o dan is-baragraff (6) mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo sy’n ddarostyngedig i ymddiriedolaeth sydd wedi codi o dan adran 1 o Ddeddf Dychweliad Safleoedd 1987 (hawl dychweliad yn cael ei disodli gan ymddiried i werthu) —
a
os gwneir y penderfyniad gan Weinidogion Cymru (a dim ond bryd hynny), a
b
maent wedi eu bodloni (a dim ond bryd hynny) bod camau wedi eu cymryd i amddiffyn buddiannau’r buddiolwyr o dan yr ymddiriedolaeth.
10
Mae is-baragraff (6) yn gymwys at ddibenion digolledu’r awdurdod a hysbysir o dan yr is-baragraff hwnnw mewn perthynas yn unig â’r rhan honno o’r swm a grybwyllir yn isbaragraff (5)(b) (os oes un) sy’n weddill ar ôl cymhwyso paragraffau 1 i 3 o Atodlen 22 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (gwaredu tir - ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol ac ysgolion arbennig sefydledig) i’r swm hwnnw.
11
Yn y paragraff hwn—
ystyr “y dibenion perthnasol” (“the relevant purposes”) yw—
- a
mewn perthynas â throsglwyddiad i gorff sefydledig ysgol, dibenion yr ysgolion sy’n ffurfio’r grwp y mae’r corff hwnnw’n gweithredu drosto, neu
- b
mewn perthynas â throsglwyddiad i gorff llywodraethu ysgol, dibenion yr ysgol;
- a
nid yw “safle” (“site”) yn cynnwys caeau chwarae ond fel arall mae’n cynnwys unrhyw safle sydd i ffurfio rhan o fangre’r ysgol o dan sylw.
I2I78Grantiau mewn cysylltiad â gwariant penodol ynghylch ysgol wirfoddol a gynorthwyir boed hi’n un bresennol neu’n un arfaethedig
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
pan fo’n ofynnol i gorff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn rhinwedd paragraff 4(5) i weithredu cynigion i wneud newid rheoleiddiedig i’r ysgol, neu
b
pan fo’n ofynnol i berson yn rhinwedd paragraff 4(3)(b) i weithredu cynigion i sefydlu ysgol newydd wirfoddol a gynorthwyir.
2
Mae paragraff 5 o Atodlen 3 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (grantiau i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir mewn cysylltiad â gwariant ar fangre neu gyfarpar)—
a
yn gymwys mewn perthynas â’r ysgol a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a), a
b
yn gymwys mewn perthynas â’r ysgol newydd a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b) fel y mae’n gymwys mewn perthynas ag ysgol bresennol sy’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir.
3
Wrth gymhwyso’r paragraff hwnnw mewn perthynas ag ysgol newydd wirfoddol a gynorthwyir—
a
mae cyfeiriadau at y corff llywodraethu, mewn perthynas ag unrhyw adeg cyn i’r corff llywodraethu gael ei gyfansoddi, yn gyfeiriadau at y person a wnaeth y cynigion o dan adran 41(2), a
b
pan osodir gofynion mewn perthynas a grant a delir yn rhinwedd y paragraff hwn i’r person a wnaeth y cynigion, rhaid i gorff llywodraethu, pan gyfansoddir ef, yn ogystal â’r person hwnnw, gydymffurfio â’r gofynion.
I3I89Cymorth mewn cysylltiad â chynnal a chadw a rhwymedigaethau eraill mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir
Caiff awdurdod lleol roi i gorff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir y cymorth y gwêl yr awdurdod yn dda i’w roi pan fo’r corff llywodraethu’n cyflawni unrhyw rwymedigaeth sy’n codi yn rhinwedd paragraff 4(5) mewn perthynas â chynigion a wnaed ganddo o dan adran 42(2).
I4I910Cymorth mewn cysylltiad ag ysgol newydd wirfoddol a gynorthwyir
Caiff awdurdod lleol roi i’r personau y mae’n ofynnol iddynt yn rhinwedd paragraff 4(3) (b) i weithredu cynigion i sefydlu ysgol wirfoddol a gynorthwyir y cymorth y gwêl yn dda i’w roi pan fo’r personau hynny’n cyflawni unrhyw rwymedigaeth sy’n codi yn rhinwedd y paragraff hwnnw.
I5I1011Dyletswydd i drosglwyddo buddiant mewn mangre a ddarperir o dan baragraff 9 neu 10
1
Pan fo cymorth o dan baragraff 9 neu 10 yn golygu darparu unrhyw fangre i’w defnyddio at ddibenion ysgol, rhaid i’r awdurdod leol drosglwyddo ei fuddiant yn y fangre—
a
i ymddiriedolwyr yr ysgol i’w ddal ar ymddiried at ddibenion yr ysgol, neu
b
os nad oes ymddiriedolwyr gan yr ysgol, i gorff sefydledig yr ysgol, i’w ddal gan y corff hwnnw at ddibenion yr ysgolion sy’n ffurfio’r grwp y mae’r corff hwnnw’n gweithredu drosto.
2
Os bydd unrhyw amheuaeth neu anghydfod yn codi o ran y personau y mae’n ofynnol i’r awdurdod wneud y trosglwyddiad iddynt, rhaid iddo gael ei wneud i’r personau hynny y mae Gweinidogion Cymru’n barnu eu bod yn briodol.
3
Rhaid i’r awdurdod dalu i’r personau y gwneir y trosglwyddiad iddynt eu costau rhesymol mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad.