17(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol sefydledig nad yw’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu’n ysgol wirfoddol a reolir, a
(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp.
(2)Mae unrhyw dir, ar wahân i dir sy’n cael ei ddal ar ymddiried, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol sefydledig, ar y dyddiad hwnnw i’w drosglwyddo i’r corff sefydledig, ac i’w freinio ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 4 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2Atod. 4 para. 17 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)