24(1)Mae is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol wirfoddol a reolir nad yw’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol gymunedol.
(2)Mae unrhyw dir wedi ei gyllido’n gyhoeddus, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu’r corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w freinio ynddo.
(3)Mae unrhyw dir arall, a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu’r corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w freinio ynddo yn unol â chytundeb trosglwyddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 4 para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2Atod. 4 para. 24 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)