Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

Trosglwyddiadau heb eu cwblhauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

26(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys, yn union cyn y dyddiad gweithredu, mewn perthynas ag unrhyw newid categori sy’n digwydd mewn cysylltiad ag ysgol—

(a)pan fo’n ofynnol yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth statudol i drosglwyddo unrhyw dir a freiniwyd mewn awdurdod lleol i gorff llywodraethu neu i unrhyw ymddiriedolwyr yr ysgol, ond

(b)pan nad yw’r tir hyd yn hyn wedi ei drosglwyddo felly.

(2)Mae paragraffau 10 i 25 o’r Atodlen hon yn gymwys i’r ysgol fel pe bai’r tir wedi cael ei drosglwyddo felly erbyn yr adeg honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 4 para. 26 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)