ATODLEN 4LL+CGWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL

RHAN 3LL+CTROSGLWYDDO TIR

Trosglwyddo hawl i ddefnyddio tirLL+C

28(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)os yw paragraff 14, 15, 19, 20, 24 neu 25 yn gymwys i ysgol,

(b)os oedd unrhyw dir a oedd yn cael ei ddal gan berson neu gorff ar wahân i gorff llywodraethu’r ysgol, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol, ac

(c)os oedd y corff llywodraethu yn mwynhau neu’n ysgwyddo unrhyw hawliau neu rwymedigaethau yn union cyn y dyddiad gweithredu mewn cysylltiad â’r defnydd o’r tir.

(2)Mae’r hawliau a’r rhwymedigaethau hynny, ar y dyddiad gweithredu, i’w trosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w breinio ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 4 para. 28 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)