ATODLEN 4GWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL
RHAN 3TROSGLWYDDO TIR
I1I235Cyfyngiadau ar waredu neu ddefnyddio tir
1
At ddibenion paragraffau 36 a 37 mae’r weithdrefn i ddod yn ysgol mewn categori arall heb ei chwblhau mewn perthynas ag ysgol pan fo’r weithdrefn wedi ei dechrau gan y corff llywodraethu mewn perthynas ag ysgol a heb gael ei therfynu.
2
Bernir bod y weithdrefn wedi ei dechrau mewn perthynas ag ysgol pan fo’r awdurdod lleol yn cael hysbysiad o gyfarfod y corff llywodraethu y mae cynnig ynddo i ystyried cael penderfyniad i ymgynghori ynghylch cynigion i newid categori.
3
Bernir bod y weithdrefn wedi ei therfynu—
a
os na chynhelir y cyfarfod,
b
os cynhelir y cyfarfod ond na roddir y cynnig gerbron neu, er bod y cynnig wedi ei roi gerbron, nid yw’r penderfyniad yn cael ei basio,
c
os na wneir yr ymgynghoriad yn unol ag adran 48,
d
os na chaiff y cynigion y gwnaed yr ymgynghoriad mewn cysylltiad â hwy eu cyhoeddi yn unol ag adran 48,
e
os caiff y cynigion eu gwrthod gan Weinidogion Cymru o dan adran 50 neu gan awdurdod lleol o dan adran 51 neu os cânt eu tynnu’n ôl neu os yw’r corff llywodraethu wedi penderfynu peidio â’u gweithredu o dan adran 53, neu
f
ar ddyddiad gweithredu’r cynigion.