ATODLEN 4GWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL
RHAN 3TROSGLWYDDO TIR
I1I236Cyfyngiadau ar waredu neu ddefnyddio tir
1
Tra bod y weithdrefn o ddod yn ysgol o gategori arall heb ei chwblhau mewn perthynas ag ysgol, ni chaiff awdurdod lleol, heb gydsyniad Gweinidogion Cymru—
a
gwaredu unrhyw dir a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n rhannol at ddibenion yr ysgol, neu
b
ymrwymo i gontract i waredu tir o’r fath.
2
Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gwarediad a wneir yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo, neu opsiwn a roddwyd, cyn bod y weithdrefn i ddod yn ysgol o gategori arall wedi ei dechrau mewn perthynas â’r ysgol.
3
Mae is-baragraff (4) yn gymwys—
a
os caiff cynigion i ddod yn ysgol o gategori arall eu cymeradwyo neu os yw’r corff llywodraethu wedi penderfynu eu gweithredu, a
b
os yw’n ofynnol dod i gytundeb o dan baragraff 2(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (dynodi eiddo, etc.) ar unrhyw fater sy’n ymwneud ag unrhyw dir sydd i’w drosglwyddo.
4
Nid yw’r weithdrefn i ddod yn ysgol o gategori arall i’w thrin fel un a derfynwyd at ddibenion y paragraff hwn mewn perthynas â‘r tir hwnnw tan y dyddiad y caiff y mater ei benderfynu’n derfynol.
5
Nid yw gwarediad neu gontract yn annilys neu’n ddi-rym am yr unig reswm iddo gael ei wneud neu yr ymrwymwyd iddo yn groes i’r paragraff hwn ac nid yw person sy’n caffael tir, neu’n ymrwymo i gontract i gaffael tir, oddi wrth awdurdod lleol i ymboeni a ddylid gwneud ymholiadau a gafodd unrhyw gydsyniad sy’n ofynnol gan y paragraff hwn ei roi.
6
Mae’r paragraff hwn yn cael effaith er gwaethaf unrhyw beth yn adran 123 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (pŵer cyffredinol i waredu tir) neu mewn unrhyw ddeddfiad arall; ac mae’r cydsyniad sy’n ofynnol gan y paragraff hwn yn ychwanegol at unrhyw gydsyniad sy’n ofynnol gan is-adran (2) o’r adran honno neu gan unrhyw ddeddfiad arall.
7
Yn y paragraff hwn—
a
mae cyfeiriadau at waredu tir yn cynnwys rhoi neu waredu unrhyw fuddiant yn y tir, a
b
mae cyfeiriadau at ymrwymo i gontract i waredu tir yn cynnwys rhoi opsiwn i gaffael tir neu fuddiant o’r fath.