5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol sefydledig sydd â chymeriad crefyddol yn newid categori i ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol.
(2)Mae is-baragraff (3) yn gymwys os bydd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, athro neu athrawes yn yr ysgol wirfoddol a reolir neu’r ysgol sefydledig yn mwynhau hawliau a roddwyd gan adran 59(2) i (4) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn rhinwedd adran 60(2) o’r Ddeddf honno.
(3)Mae’r athro hwnnw neu’r athrawes honno i barhau i fwynhau‘r hawliau hynny tra bydd yn gyflogedig fel athro neu athrawes yn yr ysgol wirfoddol a gynorthwyir.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 4 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)