Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/09/2023.
Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, RHAN 3 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 15 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
6(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fo tir yn cael ei drosglwyddo a’i freinio mewn corff yn unol â’r Atodlen hon, a
(b)pan fo’r trosglwyddwr yn mwynhau neu’n ysgwyddo unrhyw hawliau neu rwymedigaethau yn union cyn y dyddiad gweithredu mewn cysylltiad â’r tir hwnnw.
(2)Caiff yr hawliau neu’r rhwymedigaethau hynny hefyd eu trosglwyddo i’r corff hwnnw, ac yn rhinwedd yr Atodlen hon, eu breinio ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 4 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
7Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon o’r Atodlen hon, mewn perthynas ag ysgol, at dir yn cael ei drosglwyddo i gorff sefydledig a’i freinio ynddo yn gyfeiriad ato’n cael ei drosglwyddo i’r corff hwnnw a’i freinio ynddo at ddibenion yr ysgolion sy’n ffurfio’r grwp y mae’r corff hwnnw’n gweithredu drosto.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 4 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I4Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
8Nid yw trosglwyddo tir o dan yr Atodlen hon yn effeithio ar hawliau’r corff llywodraethu mewn perthynas â’r tir o dan Atodlen 13 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 4 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
9Yn ei gymhwysiad at drosglwyddo o dan yr Atodlen hon, mae Atodlen 10 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriadau sydd ynddi at y dyddiad trosglwyddo yn gyfeiriadau at y dyddiad gweithredu.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 4 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I7Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
10(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol gymunedol yn dod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir, a
(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan na fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.
(2)Mae unrhyw dir ar wahân i gaeau chwarae a oedd yn cael ei ddal neu ei ddefnyddio, yn union cyn y dyddiad gweithredu, gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i ymddiriedolwyr yr ysgol, ac i’w freinio ynddynt, i’w ddal ganddynt ar ymddiried at ddibenion yr ysgol.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 4 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I9Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
11(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol gymunedol yn dod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir, a
(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.
(2)Mae unrhyw dir ar wahân i gaeau chwarae neu dir sy’n cael ei ddal ar ymddiried, a oedd yn cael ei ddal neu ei ddefnyddio, yn union cyn y dyddiad gweithredu, gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r corff sefydledig ac i’w freinio ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 4 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I11Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
12(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol gymunedol yn dod yn ysgol wirfoddol a reolir, a
(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan na fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.
(2)Mae unrhyw dir ar wahân i gaeau chwarae a oedd yn cael ei ddal neu ei ddefnyddio, yn union cyn y dyddiad gweithredu, gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i ymddiriedolwyr yr ysgol, ac i’w freinio ynddynt, i’w ddal ganddynt ar ymddiried at ddibenion yr ysgol.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 4 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I13Atod. 4 para. 12 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
13(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol gymunedol yn dod yn ysgol wirfoddol a reolir, a
(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.
(2)Mae unrhyw dir ar wahân i gaeau chwarae neu dir sy’n cael ei ddal ar ymddiried, a oedd yn cael ei ddal neu ei ddefnyddio, yn union cyn y dyddiad gweithredu, gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r corff sefydledig ac i’w freinio ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 4 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I15Atod. 4 para. 13 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
14(1)Mae is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol sefydledig nad yw’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol gymunedol.
(2)Mae unrhyw dir wedi ei gyllido’n gyhoeddus, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu’r corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w freinio ynddo.
(3)Mae unrhyw dir arall, a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu’r corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol, ac i’w freinio ynddo, yn unol â chytundeb trosglwyddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 4 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I17Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
15(1)Mae is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol sefydledig sy’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol gymunedol.
(2)Mae unrhyw dir wedi ei gyllido’n gyhoeddus, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol sefydledig, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w freinio ynddo.
(3)Mae unrhyw dir arall, a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol sefydledig, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol, ac i’w freinio ynddo, yn unol â chytundeb trosglwyddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 4 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I19Atod. 4 para. 15 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
16(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol sefydledig nad yw’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu’n ysgol wirfoddol a reolir, a
(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan na fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp.
(2)Mae unrhyw dir, ar wahân i dir sy’n cael ei ddal ar ymddiried, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol sefydledig, ar y dyddiad hwnnw i’w drosglwyddo i ymddiriedolwyr yr ysgol, ac i’w freinio ynddynt, i’w ddal ganddynt ar ymddiried at ddibenion yr ysgol.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 4 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I21Atod. 4 para. 16 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
17(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol sefydledig nad yw’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu’n ysgol wirfoddol a reolir, a
(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp.
(2)Mae unrhyw dir, ar wahân i dir sy’n cael ei ddal ar ymddiried, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol sefydledig, ar y dyddiad hwnnw i’w drosglwyddo i’r corff sefydledig, ac i’w freinio ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 4 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I23Atod. 4 para. 17 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
18(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol sefydledig sy’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu’n ysgol wirfoddol a reolir, a
(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan na fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp.
(2)Mae unrhyw dir, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol sefydledig, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i ymddiriedolwyr yr ysgol ac i’w freinio ynddynt, i’w ddal ganddynt ar ymddiried at ddibenion yr ysgol.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 4 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I25Atod. 4 para. 18 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
19(1)Mae is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol wirfoddol a gynorthwyir nad yw’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol gymunedol.
(2)Mae unrhyw dir wedi ei gyllido’n gyhoeddus, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu’r corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w freinio ynddo.
(3)Mae unrhyw dir arall, a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu’r corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol, ac i’w freinio ynddo, yn unol â chytundeb trosglwyddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 4 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I27Atod. 4 para. 19 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
20(1)Mae is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol wirfoddol a gynorthwyir sy’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol gymunedol.
(2)Mae unrhyw dir wedi ei gyllido’n gyhoeddus, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w freinio ynddo.
(3)Mae unrhyw dir arall, a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol wirfoddol a gynorthwyir i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol, ac i’w freinio ynddo, yn unol â chytundeb trosglwyddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 4 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I29Atod. 4 para. 20 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
21(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir nad yw’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol wirfoddol a reolir neu’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir, a
(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp.
(2)Mae unrhyw dir, ar wahân i dir sy’n cael ei ddal ar ymddiried, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol, ar y dyddiad hwnnw i’w drosglwyddo i’r corff sefydledig, ac i’w freinio ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 4 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I31Atod. 4 para. 21 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
22(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir sy’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol wirfoddol a reolir neu’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir, a
(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan na fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp.
(2)Mae unrhyw dir, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i ymddiriedolwyr yr ysgol ac i’w freinio ynddynt, i’w ddal ganddynt ar ymddiried at ddibenion yr ysgol.
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. 4 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I33Atod. 4 para. 22 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
23(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir sy’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol wirfoddol a reolir neu’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir, a
(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp y mae corff sefydledig arall yn gweithredu drosto.
(2)Mae unrhyw dir, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a) at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r corff sefydledig a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b), ac i’w freinio ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. 4 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I35Atod. 4 para. 23 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
24(1)Mae is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol wirfoddol a reolir nad yw’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol gymunedol.
(2)Mae unrhyw dir wedi ei gyllido’n gyhoeddus, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu’r corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w freinio ynddo.
(3)Mae unrhyw dir arall, a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu’r corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w freinio ynddo yn unol â chytundeb trosglwyddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I36Atod. 4 para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I37Atod. 4 para. 24 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
25(1)Mae is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol wirfoddol a reolir sy’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol gymunedol.
(2)Mae unrhyw dir wedi ei gyllido’n gyhoeddus, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgol yn y grwp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion ysgol wirfoddol a reolir, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w freinio ynddo.
(3)Mae unrhyw dir arall, a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol wirfoddol a reolir i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol, ac i’w freinio ynddo, yn unol â chytundeb trosglwyddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I38Atod. 4 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I39Atod. 4 para. 25 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
26(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys, yn union cyn y dyddiad gweithredu, mewn perthynas ag unrhyw newid categori sy’n digwydd mewn cysylltiad ag ysgol—
(a)pan fo’n ofynnol yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth statudol i drosglwyddo unrhyw dir a freiniwyd mewn awdurdod lleol i gorff llywodraethu neu i unrhyw ymddiriedolwyr yr ysgol, ond
(b)pan nad yw’r tir hyd yn hyn wedi ei drosglwyddo felly.
(2)Mae paragraffau 10 i 25 o’r Atodlen hon yn gymwys i’r ysgol fel pe bai’r tir wedi cael ei drosglwyddo felly erbyn yr adeg honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I40Atod. 4 para. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I41Atod. 4 para. 26 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
27(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)os yw paragraff 10, 11, 12 neu 13 yn gymwys i ysgol,
(b)os oedd unrhyw dir a oedd yn cael ei ddal gan berson neu gorff ar wahân i awdurdod lleol, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol, ac
(c)os oedd yr awdurdod lleol yn mwynhau neu’n ysgwyddo unrhyw hawliau neu rwymedigaethau yn union cyn y dyddiad gweithredu mewn cysylltiad â defnydd o’r tir.
(2)Mae’r hawliau a’r rhwymedigaethau hynny, ar y dyddiad gweithredu, i’w trosglwyddo i ymddiriedolwyr yr ysgol, ac i’w freinio ynddynt, ac os nad oes ymddiriedolwyr, y corff llywodraethu.
Gwybodaeth Cychwyn
I42Atod. 4 para. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I43Atod. 4 para. 27 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
28(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)os yw paragraff 14, 15, 19, 20, 24 neu 25 yn gymwys i ysgol,
(b)os oedd unrhyw dir a oedd yn cael ei ddal gan berson neu gorff ar wahân i gorff llywodraethu’r ysgol, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol, ac
(c)os oedd y corff llywodraethu yn mwynhau neu’n ysgwyddo unrhyw hawliau neu rwymedigaethau yn union cyn y dyddiad gweithredu mewn cysylltiad â’r defnydd o’r tir.
(2)Mae’r hawliau a’r rhwymedigaethau hynny, ar y dyddiad gweithredu, i’w trosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w breinio ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I44Atod. 4 para. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I45Atod. 4 para. 28 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
29(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)os yw paragraff 14, 15, 19, 20, 24 neu 25 yn gymwys i ysgol,
(b)os oedd unrhyw dir a oedd yn cael ei ddal gan berson neu gorff ar wahân i unrhyw ymddiriedolwyr neu gorff sefydledig, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol, ac
(c)os oedd yr ymddiriedolwyr neu’r corff sefydledig yn mwynhau neu’n ysgwyddo unrhyw hawliau neu rwymedigaethau yn union cyn y dyddiad gweithredu mewn cysylltiad â defnydd o’r tir.
(2)Mae’r hawliau a’r rhwymedigaethau hynny, ar y dyddiad gweithredu, i’w trosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w breinio ynddo yn unol â chytundeb trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau.
(3)Ystyr “cytundeb trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau” yw cytundeb—
(a)a wnaed at ddibenion is-baragraff (2) rhwng yr awdurdod lleol a’r ymddiriedolwyr neu’r corff sefydledig, a
(b)sy’n darparu i’r hawliau neu’r rhwymedigaethau o dan sylw gael eu trosglwyddo i’r awdurdod a chael eu breinio ynddo ar y dyddiad gweithredu, p’un a ydyw mewn cydnabyddiaeth o daliad ai peidio gan yr awdurdod o swm y cytunir arno rhwng y partïon.
Gwybodaeth Cychwyn
I46Atod. 4 para. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I47Atod. 4 para. 29 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
30Nid oes dim ym mharagraffau 10 i 25 yn cael yr effaith o drosglwyddo i unrhyw gorff neu freinio ynddo—
(a)unrhyw dir, hawliau neu rwymedigaethau a eithrir o dan baragraff 31 neu 32,
(b)unrhyw hawliau neu rwymedigaethau o dan gontract cyflogaeth,
(c)unrhyw rwymedigaeth gan awdurdod lleol, corff llywodraethu neu ymddiriedolwyr mewn cysylltiad â phrifswm unrhyw fenthyciad neu logau arno, neu
(d)unrhyw rwymedigaeth mewn cyfraith camwedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I48Atod. 4 para. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I49Atod. 4 para. 30 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
31(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys os ceir y canlynol cyn y dyddiad gweithredu mewn perthynas ag unrhyw newid categori—
(a)bod y trosglwyddai a’r trosglwyddwr arfaethedig wedi cytuno’n ysgrifenedig y dylid eithrio unrhyw dir rhag gweithrediad paragraffau 10 i 25, a
(b)bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi eu cymeradwyaeth ysgrifenedig i’r cytundeb.
(2)Mae’r tir (ac unrhyw hawliau neu rwymedigaethau sy’n ymwneud ag ef) i’w eithrio felly.
Gwybodaeth Cychwyn
I50Atod. 4 para. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I51Atod. 4 para. 31 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
32(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys yn absenoldeb cytundeb o dan baragraff 31—
(a)os yw’r trosglwyddai a’r trosglwyddwr arfaethedig wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i eithrio unrhyw dir rhag gweithrediad paragraffau 10 i 25, a
(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd i’w eithrio.
(2)Mae’r tir (ac unrhyw hawliau neu rwymedigaethau sy’n ymwneud ag ef) i’w eithrio felly.
Gwybodaeth Cychwyn
I52Atod. 4 para. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I53Atod. 4 para. 32 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
33(1)Caiff cytundeb o dan baragraff 31 ddarparu bod y tir yn cael ei ddefnyddio neu ei ddal at ddibenion yr ysgol ar y cyfryw delerau ag a bennir neu a ddyfernir yn unol â’r cytundeb.
(2)O ran cyfarwyddiadau o dan baragraff 32—
(a)cânt roi unrhyw hawliau neu osod unrhyw rwymedigaethau y gellid bod wedi eu rhoi neu eu gosod drwy gytundeb o dan baragraff 31, a
(b)maent yn cael effaith fel pe baent wedi eu cynnwys mewn cytundeb o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I54Atod. 4 para. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I55Atod. 4 para. 33 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
34Ym mharagraffau 31 a 32—
ystyr “y trosglwyddai arfaethedig” (“the prospective transferee”), mewn perthynas ag unrhyw dir, yw’r corff (ar wahân i baragraffau 31 a 32) y byddai’r tir yn cael ei drosglwyddo iddo o dan baragraffau 10 i 25, a
mae “y trosglwyddwr arfaethedig” (“the prospective transferor”) i’w ddehongli yn unol â hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I56Atod. 4 para. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I57Atod. 4 para. 34 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
35(1)At ddibenion paragraffau 36 a 37 mae’r weithdrefn i ddod yn ysgol mewn categori arall heb ei chwblhau mewn perthynas ag ysgol pan fo’r weithdrefn wedi ei dechrau gan y corff llywodraethu mewn perthynas ag ysgol a heb gael ei therfynu.
(2)Bernir bod y weithdrefn wedi ei dechrau mewn perthynas ag ysgol pan fo’r awdurdod lleol yn cael hysbysiad o gyfarfod y corff llywodraethu y mae cynnig ynddo i ystyried cael penderfyniad i ymgynghori ynghylch cynigion i newid categori.
(3)Bernir bod y weithdrefn wedi ei therfynu—
(a)os na chynhelir y cyfarfod,
(b)os cynhelir y cyfarfod ond na roddir y cynnig gerbron neu, er bod y cynnig wedi ei roi gerbron, nid yw’r penderfyniad yn cael ei basio,
(c)os na wneir yr ymgynghoriad yn unol ag adran 48,
(d)os na chaiff y cynigion y gwnaed yr ymgynghoriad mewn cysylltiad â hwy eu cyhoeddi yn unol ag adran 48,
(e)os caiff y cynigion eu gwrthod gan Weinidogion Cymru o dan adran 50 neu gan awdurdod lleol o dan adran 51 neu os cânt eu tynnu’n ôl neu os yw’r corff llywodraethu wedi penderfynu peidio â’u gweithredu o dan adran 53, neu
(f)ar ddyddiad gweithredu’r cynigion.
Gwybodaeth Cychwyn
I58Atod. 4 para. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I59Atod. 4 para. 35 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
36(1)Tra bod y weithdrefn o ddod yn ysgol o gategori arall heb ei chwblhau mewn perthynas ag ysgol, ni chaiff awdurdod lleol, heb gydsyniad Gweinidogion Cymru—
(a)gwaredu unrhyw dir a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n rhannol at ddibenion yr ysgol, neu
(b)ymrwymo i gontract i waredu tir o’r fath.
(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gwarediad a wneir yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo, neu opsiwn a roddwyd, cyn bod y weithdrefn i ddod yn ysgol o gategori arall wedi ei dechrau mewn perthynas â’r ysgol.
(3)Mae is-baragraff (4) yn gymwys—
(a)os caiff cynigion i ddod yn ysgol o gategori arall eu cymeradwyo neu os yw’r corff llywodraethu wedi penderfynu eu gweithredu, a
(b)os yw’n ofynnol dod i gytundeb o dan baragraff 2(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (dynodi eiddo, etc.) ar unrhyw fater sy’n ymwneud ag unrhyw dir sydd i’w drosglwyddo.
(4)Nid yw’r weithdrefn i ddod yn ysgol o gategori arall i’w thrin fel un a derfynwyd at ddibenion y paragraff hwn mewn perthynas â‘r tir hwnnw tan y dyddiad y caiff y mater ei benderfynu’n derfynol.
(5)Nid yw gwarediad neu gontract yn annilys neu’n ddi-rym am yr unig reswm iddo gael ei wneud neu yr ymrwymwyd iddo yn groes i’r paragraff hwn ac nid yw person sy’n caffael tir, neu’n ymrwymo i gontract i gaffael tir, oddi wrth awdurdod lleol i ymboeni a ddylid gwneud ymholiadau a gafodd unrhyw gydsyniad sy’n ofynnol gan y paragraff hwn ei roi.
(6)Mae’r paragraff hwn yn cael effaith er gwaethaf unrhyw beth yn adran 123 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (pŵer cyffredinol i waredu tir) neu mewn unrhyw ddeddfiad arall; ac mae’r cydsyniad sy’n ofynnol gan y paragraff hwn yn ychwanegol at unrhyw gydsyniad sy’n ofynnol gan is-adran (2) o’r adran honno neu gan unrhyw ddeddfiad arall.
(7)Yn y paragraff hwn—
(a)mae cyfeiriadau at waredu tir yn cynnwys rhoi neu waredu unrhyw fuddiant yn y tir, a
(b)mae cyfeiriadau at ymrwymo i gontract i waredu tir yn cynnwys rhoi opsiwn i gaffael tir neu fuddiant o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I60Atod. 4 para. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I61Atod. 4 para. 36 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
37(1)Tra bod y weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall heb ei chwblhau mewn perthynas ag ysgol, ni chaiff awdurdod lleol, heb gydsyniad Gweinidogion Cymru, gymryd unrhyw gamau mewn perthynas ag unrhyw dir yr awdurdod sy’n cael ei ddefnyddio neu ei ddal at ddibenion yr ysgol sy’n peri bod y tir i unrhyw raddau yn peidio â chael ei ddefnyddio neu ei ddal felly.
(2)Mae is-baragraff (3) yn gymwys yn achos unrhyw ysgol—
(a)os yw cynigion bod ysgol yn dod yn ysgol o gategori arall yn cael eu cymeradwyo neu os yw’r corff llywodraethu yn penderfynu eu gweithredu, a
(b)os yw awdurdod lleol, mewn perthynas ag unrhyw dir, wedi cymryd camau yn groes i is-baragraff (1).
(3)Mae’r darpariaethau ynghylch trosglwyddo eiddo yn cael effaith fel pe bai’r eiddo, yn union cyn y dyddiad gweithredu, wedi cael ei ddefnyddio neu ei ddal gan yr awdurdod at y dibenion y cafodd ei ddefnyddio neu ei ddal pan ddechreuwyd y weithdrefn o ddod yn ysgol o gategori arall.
(4)Yn y paragraff hwn—
(a)ystyr “y darpariaethau ynghylch trosglwyddo eiddo” yw darpariaethau’r Atodlen hon ac adran 198 of Ddeddf Diwygio Addysg 1988 ac Atodlen 10 iddi, a
(b)mae’r cyfeiriadau at gymryd camau yn cynnwys perchnogi eiddo at unrhyw ddiben.
Gwybodaeth Cychwyn
I62Atod. 4 para. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I63Atod. 4 para. 37 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: