ATODLEN 5MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL
RHAN 1DIWYGIADAU SY’N YMWNEUD Â RHAN 2 (SAFONAU)
I2I18Deddf Addysg 2005
1
Mae Deddf Addysg 2005 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Hepgorer adran 45 (y pŵer i gyfarwyddo bod ysgol yn cael ei chau).
3
Yn adran 114(8) (cyflenwi gwybodaeth am weithlu ysgol)—
a
hepgorer “and” ar ddiwedd paragraff (a);
b
ym mharagraff (b) ar y dechrau mewnosoder “in relation to England,”;
c
ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
and
c
in relation to Wales, provide that Chapter 2 of Part 2 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 (intervention in local authorities) is to have effect as if—
i
references to a local authority included a reference to a prescribed person,
ii
duties imposed by virtue of this section were education functions,
iii
the only relevant ground for intervention were ground 1 in section 21, and
iv
sections 24 to 27 did not apply.
4
Yn Atodlen 9 (diwygiadau mewn perthynas ag arolygu ysgol) hepgorer paragraffau 14 i 20.
5
Gweler hefyd y diwygiad a wnaed gan baragraff 22(2)(b) o’r Atodlen hon i adran 28(4)(c) o Ddeddf Addysg 2005 (sy’n rhannol o ganlyniad i Ran 2 o’r Ddeddf hon).