RHAN 2SAFONAU
PENNOD 3CANLLAWIAU GWELLA YSGOLION
I133Pŵer i ddyroddi canllawiau gwella ysgolion
1
Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdod ysgol ynglyn â’r ffordd y dylai’r awdurdod arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar wella safon yr addysg sy’n cael ei darparu gan unrhyw ysgol a gynhelir y mae’r awdurdod yn arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â hi (“canllawiau gwella ysgolion”).
2
Caiff Gweinidogion Cymru—
a
dyroddi canllawiau gwella ysgolion i awdurdodau ysgolion yn gyffredinol neu i un neu fwy o awdurdodau penodol;
b
dyroddi canllawiau gwahanol ynghylch gwella ysgolion i wahanol awdurdodau ysgolion;
c
diwygio neu ddirymu canllawiau gwella ysgolion drwy ganllawiau pellach;
d
dirymu canllawiau gwella ysgolion drwy ddyroddi hysbysiad i’r awdurdodau ysgolion y mae’r canllawiau wedi eu cyfeirio atynt.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod canllawiau gwella ysgolion, neu hysbysiad yn dirymu’r canllawiau hynny, yn datgan—
a
eu bod yn cael eu dyroddi, neu ei fod yn cael ei ddyroddi, o dan yr adran hon, a
b
y dyddiad y deuant neu y daw yn weithredol arno.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru drefnu i gyhoeddi canllawiau gwella ysgolion, neu hysbysiad yn dirymu’r canllawiau hynny.