RHAN 2SAFONAU

C5C1C2C6C3C4PENNOD 1YMYRRYD YM MATERION RHEDEG YSGOLION A GYNHELIR

Annotations:
Modifications etc. (not altering text)
C5

Rhn. 2 Pnd. 1 wedi ei eithrio (20.2.2014) gan 2010 c. 15, a. 87(4) (fel y'i mewnosodwyd gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 11(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C1

Rhn. 2 Pnd. 1: rhoddwyd pŵer i addasu (20.2.2014) gan 2011 nawm 7 a. 0018(01)(a) (wedi ei amnewid (C.) gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 13(3)(a); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C2

Rhn. 2 Pnd. 1 wedi ei addasu (20.2.2014) gan 1998 c. 30, a. 19(12) (fel e'i amnewid (C.) gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 3; O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C6

Rhn. 2 Pnd. 1 wedi ei addasu (20.2.2014) gan 1988 c. 40, a. 219(3A) (fel y'i mewnosodwyd (C.) gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 1(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C3

Rhn. 2 Pnd. 1 wedi ei addasu (20.2.2014) gan 2002 c. 32, a. 34(7) (fel y'i diwygiwyd gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 6(2); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C4

Rhn. 2 Pnd. 1 cymhwyswyd (ynghyd â addasiadau) (20.2.2014) gan 2010 c. 15, a. 87(3)(a) (fel y’i mewnosodwyd gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 11(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

Ymyrraeth gan awdurdod lleol

I1I2C5C1C2C6C3C44C5C1C2C6C3C4Pŵer i ymyrryd

1

Mae gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg un o’i ysgolion a gynhelir o dan y Bennod hon os yw is-adran (2), (3) neu (4) yn gymwys.

2

Mae’r is-adran hon yn gymwys—

a

os yw’r awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad rhybuddio o dan adran 3 i gorff llywodraethu’r ysgol, a

b

os yw’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio, neu â sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad yr awdurdod o fewn y cyfnod cydymffurfio.

3

Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 6 yn bodoli mewn perthynas â’r ysgol a bod ganddo reswm dros gredu bod risg cysylltiedig i iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson a hwnnw’n risg sy’n galw am ymyriad brys o dan y Bennod hon.

4

Mae’r is-adran hon yn gymwys—

a

os yw sail 7 (ysgol y mae arni angen gwelliant sylweddol) neu sail 8 (ysgol y mae arni angen mesurau arbennig) yn bodoli mewn perthynas â’r ysgol, a

b

os yw cyfnod heb fod yn llai na 10 niwrnod wedi mynd heibio er y dyddiad y rhoes y Prif Arolygydd hysbysiad i’r awdurdod lleol o dan adran 37(2) o Ddeddf Addysg 2005, yn ddarostyngedig i is-adran (5).

5

Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu, mewn perthynas ag ysgol benodol, bod is-adran (4)(b) yn cael effaith fel petai’r cyfeiriad at 10 niwrnod yn cyfeirio at gyfnod byrrach a bennir yn y penderfyniad.

6

Pan fo gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd, rhaid iddo gadw golwg ar yr amgylchiadau a arweiniodd at y pwer.

7

Os yw’r awdurdod yn dod i’r casgliad bod y seiliau dros ymyrryd wedi eu trin wrth ei fodd, neu na fyddai arfer ei bwerau o dan y Bennod hon yn briodol am unrhyw reswm arall, rhaid iddo ysgrifennu at y corff llywodraethu i’w hysbysu am ei gasgliad.

8

Os yw awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (7), rhaid iddo anfon copi yr un pryd—

a

os yw’r ysgol yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol—

i

at y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

ii

os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, at y corff crefyddol priodol, a

b

at Weinidogion Cymru.

9

Mae pŵer awdurdod lleol i ymyrryd yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd un o’r camau canlynol yn digwydd—

a

bod yr awdurdod yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (7);

b

bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu nad oes effaith mwyach i’r pŵer i ymyrryd a’u bod yn ysgrifennu at yr awdurdod lleol a’r corff llywodraethu i’w hysbysu am eu penderfyniad;

c

bod Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu’r ysgol o dan adran 10.

10

Nid yw awdurdod lleol sydd â phwer i ymyrryd wedi ei gyfyngu i gymryd y camau y dywedodd ei fod â’i fryd ar eu cymryd mewn hysbysiad rhybuddio.