RHAN 3LL+CTREFNIADAETH YSGOLION

PENNOD 2LL+CCYNIGION TREFNIADAETH YSGOLION

Cyhoeddi, ymgynghori a gwrthwynebuLL+C

48Cyhoeddi ac ymgynghoriLL+C

(1)Rhaid i gynigydd gyhoeddi cynigion a wneir o dan y Bennod hon yn unol â’r Cod.

(2)Cyn cyhoeddi cynigion a wneir o dan y Bennod hon, rhaid i gynigydd ymgynghori ynglyn â’i gynigion yn unol â’r Cod.

(3)Nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i gynigion i derfynu ysgol sy’n ysgol fach (gweler adran 56).

(4)Cyn diwedd 7 niwrnod gan ddechrau ar ddiwrnod eu cyhoeddi, rhaid i’r cynigydd anfon copïau o’r cynigion cyhoeddedig—

(a)at Weinidogion Cymru, a

(b)at yr awdurdod lleol (os nad hwnnw yw’r cynigydd) sy’n cynnal, neu y cynigir ei fod yn cynnal, yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi.

(5)Rhaid i’r cynigydd gyhoeddi adroddiad ar yr ymgynghori y mae wedi ei wneud yn unol â’r Cod.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 48 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(a) (ynghyd ag ergl. 4)