RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION
PENNOD 2CYNIGION TREFNIADAETH YSGOLION
Cyhoeddi, ymgynghori a gwrthwynebu
49Gwrthwynebu
(1)
Caiff unrhyw berson wrthwynebu cynigion a gyhoeddir o dan adran 48.
(2)
Rhaid i wrthwynebiadau gael eu hanfon yn ysgrifenedig at y cynigydd cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y cafodd y cynigion eu cyhoeddi (“y cyfnod gwrthwynebu”).
(3)
Rhaid i’r cynigydd gyhoeddi crynodeb o’r holl wrthwynebiadau a wnaed yn unol ag isadran (2) (ac nas tynnwyd yn eu hôl) a’i ymateb i’r gwrthwynebiadau hynny—
(a)
yn achos awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo benderfynu ar ei gynigion ei hun o dan adran 53, cyn diwedd 7 niwrnod gan ddechrau ar ddiwrnod ei benderfyniad o dan adran 53(1), a
(b)
ym mhob achos arall, cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y mae’r cyfnod gwrthwynebu’n dod i ben.