RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION
PENNOD 2CYNIGION TREFNIADAETH YSGOLION
Cymeradwyo cynigion a phenderfynu arnynt
55Gweithredu
1
Mae’r adran hon yn gymwys i’r canlynol—
a
cynigion sydd wedi eu cymeradwyo o dan adran 50 neu 51, neu
b
cynigion y mae’r cynigydd wedi penderfynu o dan adran 53 y byddai’n eu gweithredu.
2
Rhaid i’r cynigion (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr adran hon) gael eu gweithredu ar y ffurf y cawsant eu cymeradwyo neu eu penderfynu i gael eu gweithredu ynddi—
a
yn achos cynigion a wneir o dan adran 41, 42, 43 neu 44 (sefydlu, newid neu derfynu ysgolion), yn unol ag Atodlen 3;
b
yn achos cynigion a wneir o dan adran 45 (newid categori), yn unol ag Atodlen 4.
3
Caiff y cynigydd (yn ddarostyngedig i is-adran (6)) benderfynu gohirio gweithredu am gyfnod o hyd at dair blynedd o’r dyddiad neu’r dyddiadau a bennwyd yn y cynigion (fel y cawsant eu cymeradwyo neu eu penderfynu) fel y dyddiad neu’r dyddiadau y maent i’w gweithredu arno neu arnynt, os yw wedi ei fodloni—
a
y byddai gweithredu’r cynigion ar y dyddiad hwnnw neu’r dyddiadau hynny yn afresymol o anodd, neu
b
bod yr amgylchiadau wedi newid i’r fath graddau ers i’r cynigion gael eu cymeradwyo o dan adran 50 neu 51 neu eu penderfynu o dan adran 53, y byddai gweithredu’r cynigion ar y dyddiad hwnnw neu’r dyddiadau hynny yn amhriodol.
4
Yn achos cynigion i derfynu ysgol a wneir o dan adran 43 neu 44, caiff y cynigydd (yn ddarostyngedig i is-adran (6)) benderfynu dod â’r gweithredu ymlaen gan gyfnod o hyd at 13 o wythnosau o’r dyddiad neu’r dyddiadau a bennir yn y cynigion (fel y’u cymeradwyir neu eu penderfynir) fel y dyddiad neu’r dyddiadau pan gânt eu gweithredu.
5
Caiff y cynigydd (yn ddarostyngedig i is-adran (6)) benderfynu na fydd is-adran (2) yn gymwys i gynigion os yw wedi ei fodloni—
a
y byddai gweithredu’r cynigion yn afresymol o anodd, neu
b
bod yr amgylchiadau wedi newid cymaint ers i’r cynigion gael eu cymeradwyo o dan adran 50 neu 51 neu eu penderfynu o dan adran 53, y byddai’n amhriodol gweithredu’r cynigion.
6
Yn achos cynigion sydd wedi eu cymeradwyo o dan adran 50 neu 51, dim ond gyda chytundeb Gweinidogion Cymru y caiff y cynigydd wneud penderfyniad o dan is-adran (3), (4) neu (5).
7
Cyn diwedd 7 niwrnod gan ddechrau ar ddiwrnod y penderfyniad, rhaid i’r cynigydd hysbysu’r canlynol am unrhyw benderfyniad y mae’n ei wneud o dan is-adran (3), (4) neu (5)—
a
Gweinidogion Cymru;
b
(ac eithrio os y cynigydd yw ef) yr awdurdod lleol sy’n cynnal, neu y cynigir ei fod yn cynnal, yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi;
c
(ac eithrio os y cynigydd yw ef) corff llywodraethu (os oes un) yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi.
8
Pan fo is-adran (2), yn rhinwedd is-adran (5), yn peidio â bod yn gymwys i unrhyw gynigion, mae’r cynigion hynny i’w trin fel petaent wedi eu gwrthod o dan adran 50(5)(a) neu 51(4)(a) neu fel petai’r cynigydd wedi penderfynu o dan adran 53 y byddai’n peidio â’u gweithredu.