(1)Yn y Bennod hon—
ystyr “y Cod” (“the Code”) yw’r cod ar drefniadaeth ysgolion a ddyroddir o dan adran 38(1);
mae i “cyfnod gwrthwynebu” (“objection period”) yr ystyr a roddir gan adran 49(2);
“cynigydd” (“proposer”), mewn perthynas â chynigion a wneir o dan adran 41, 42, 43, 44 neu 45, yw’r awdurdod lleol, y corff llywodraethu neu’r person arall sydd wedi gwneud y cynigion;
ystyr “newid rheoleiddiedig” (“regulated alteration”) yw newid a ddisgrifir yn Atodlen 2;
ystyr “ysgol fach” (“small school”) yw ysgol sydd â llai na 10 o ddisgyblion cofrestredig ar y trydydd dydd Mawrth yn y mis Ionawr yn union cyn y dyddiad y caiff y cynigion eu gwneud.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio drwy orchymyn y diffiniad o “ysgol fach” yn isadran (1) yn y fath fodd ag i roi cyfeiriad at ddyddiad gwahanol yn lle’r cyfeiriad at y dyddiad a bennir am y tro.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2A. 56 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(a) (ynghyd ag ergl. 4)