RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION
PENNOD 3RHESYMOLI LLEOEDD YSGOL
Cynigion gan Weinidogion Cymru i resymoli lleoedd ysgol
I2I159Gwneud a chyhoeddi cynigion gan Weinidogion Cymru
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—
a
Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd o dan adran 57(2), a
b
naill ai—
i
cynigion wedi eu cyhoeddi’n unol â’r cyfarwyddyd, neu
ii
yr amser a ganiatawyd o dan y cyfarwyddyd ar gyfer cyhoeddi’r cynigion wedi dirwyn i ben.
2
Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw gynigion y gellid fod wedi eu gwneud yn unol â’r cyfarwyddyd.
3
Rhaid i’r cynigion gael eu cyhoeddi’n unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r cynigion—
a
at yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal, a
b
at gorff llywodraethu pob ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hwy.