Search Legislation

Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 59

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, Adran 59 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 09 Mawrth 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

59Gwneud a chyhoeddi cynigion gan Weinidogion CymruLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd o dan adran 57(2), a

(b)naill ai—

(i)cynigion wedi eu cyhoeddi’n unol â’r cyfarwyddyd, neu

(ii)yr amser a ganiatawyd o dan y cyfarwyddyd ar gyfer cyhoeddi’r cynigion wedi dirwyn i ben.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw gynigion y gellid fod wedi eu gwneud yn unol â’r cyfarwyddyd.

(3)Rhaid i’r cynigion gael eu cyhoeddi’n unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r cynigion—

(a)at yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal, a

(b)at gorff llywodraethu pob ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 59 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(b)

Back to top

Options/Help