RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION
PENNOD 3RHESYMOLI LLEOEDD YSGOL
Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chynigion o dan adran 59
62Mabwysiadu cynigion
(1)
Pan fo ymchwiliad lleol wedi ei gynnal, caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried adroddiad y person a benodwyd i gynnal yr ymchwiliad, wneud un neu fwy o’r canlynol —
(a)
mabwysiadu, gydag addasiadau neu hebddynt, neu benderfynu peidio â mabwysiadu unrhyw un o’r cynigion a wnaed gan Weinidogion Cymru (gan gynnwys cynigion a wnaed ganddynt, a gyfeiriwyd o dan adran 61(5)) ac a ystyriwyd gan yr ymchwiliad;
(b)
cymeradwyo, gydag addasiadau neu hebddynt, neu wrthod unrhyw gynigion eraill a gyfeiriwyd at yr ymchwiliad o dan adran 61(5);
(c)
gwneud cynigion pellach o dan adran 59.
(2)
Os bydd Gweinidogion Cymru’n gwneud cynigion pellach o dan adran 59 yn unol ag isadran (1)(c), ni fydd y gofyniad yn adran 61(2) i beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal yn gymwys.
(3)
Pan fo Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi cynigion o dan adran 59 nad yw’n ofynnol iddynt gael eu hystyried gan ymchwiliad lleol, cânt, ar ôl ystyried unrhyw wrthwynebiadau a wnaed yn unol ag adran 60(2) (ac sydd heb gael eu tynnu’n ôl)—
(a)
mabwysiadu’r cynigion gydag addasiadau neu hebddynt, neu
(b)
penderfynu peidio â mabwysiadu’r cynigion.
(4)
Caniateir i fabwysiad neu gymeradwyaeth cynigion ddatgan mai dim ond os bydd digwyddiad a bennir yn y mabwysiad neu’r gymeradwyaeth yn digwydd erbyn dyddiad a bennir felly, y byddai’n dod yn weithredol.