RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION

PENNOD 4DARPARIAETH RANBARTHOL AR GYFER ANGHENION F3ADDYSGOL ARBENNIGF3DYSGU YCHWANEGOL

Annotations:
Amendments (Textual)
F3

Geiriau yn nheitl Rhn. 3 Pnd. 4 wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(3)(a); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2)

I1I265Cyfarwyddyd i ystyried gwneud darpariaeth ranbarthol

1

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdodau lleol i ystyried a fyddent hwy (neu unrhyw rai ohonynt) yn gallu cyflawni eu F1swyddogaethau addysg arbennigF1wyddogaethau anghenion dysgu ychwanegol, mewn cysylltiad â phlant sydd â’r F2anghenion addysgol arbennigF2anghenion dysgu ychwanegol a bennir yn y cyfarwyddyd, yn fwy effeithlon neu effeithiol pe câi darpariaeth ranbarthol ei gwneud.

2

Rhaid i’r awdurdodau y rhoddir cyfarwyddyd iddynt gyflwyno adroddiad ar eu casgliadau i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na’r amser a bennir yn y cyfarwyddyd.

3

Caniateir i gyfarwyddyd o dan yr adran hon gael ei roi i awdurdodau lleol yn gyffredinol neu i un neu fwy o awdurdodau a bennir yn y cyfarwyddyd.