65Cyfarwyddyd i ystyried gwneud darpariaeth ranbartholLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdodau lleol i ystyried a fyddent hwy (neu unrhyw rai ohonynt) yn gallu cyflawni eu [F1swyddogaethau addysg arbennig] [F1wyddogaethau anghenion dysgu ychwanegol], mewn cysylltiad â phlant sydd â’r [F2anghenion addysgol arbennig] [F2anghenion dysgu ychwanegol] a bennir yn y cyfarwyddyd, yn fwy effeithlon neu effeithiol pe câi darpariaeth ranbarthol ei gwneud.
(2)Rhaid i’r awdurdodau y rhoddir cyfarwyddyd iddynt gyflwyno adroddiad ar eu casgliadau i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na’r amser a bennir yn y cyfarwyddyd.
(3)Caniateir i gyfarwyddyd o dan yr adran hon gael ei roi i awdurdodau lleol yn gyffredinol neu i un neu fwy o awdurdodau a bennir yn y cyfarwyddyd.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 65(1) wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(3)(c)(i); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2)
F2Geiriau yn a. 65(1) wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(3)(c)(ii); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2A. 65 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(c)