RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION
PENNOD 4DARPARIAETH RANBARTHOL AR GYFER ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIGDYSGU YCHWANEGOL
65Cyfarwyddyd i ystyried gwneud darpariaeth ranbarthol
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdodau lleol i ystyried a fyddent hwy (neu unrhyw rai ohonynt) yn gallu cyflawni eu F1swyddogaethau addysg arbennig F1wyddogaethau anghenion dysgu ychwanegol, mewn cysylltiad â phlant sydd â’r F2anghenion addysgol arbennig F2anghenion dysgu ychwanegol a bennir yn y cyfarwyddyd, yn fwy effeithlon neu effeithiol pe câi darpariaeth ranbarthol ei gwneud.
(2)
Rhaid i’r awdurdodau y rhoddir cyfarwyddyd iddynt gyflwyno adroddiad ar eu casgliadau i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na’r amser a bennir yn y cyfarwyddyd.
(3)
Caniateir i gyfarwyddyd o dan yr adran hon gael ei roi i awdurdodau lleol yn gyffredinol neu i un neu fwy o awdurdodau a bennir yn y cyfarwyddyd.