66Cyfarwyddiadau i wneud cynigion i sicrhau darpariaeth ranbarthol
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai dau neu fwy o awdurdodau lleol yn gallu cyflawni eu swyddogaethau addysg arbennig, mewn cysylltiad â phlant sy’n syrthio o fewn disgrifiad penodol, yn fwy effeithiol neu effeithlon os câi darpariaeth ranbarthol ei gwneud mewn perthynas ag ardaloedd yr awdurdodau hynny.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi un neu fwy o’r cyfarwyddiadau a bennir yn is-adran (3) er mwyn sicrhau bod darpariaeth ranbarthol yn cael ei gwneud mewn perthynas â’r disgrifiad o blant o’r ardaloedd a bennir yn y cyfarwyddyd.
(3)Y cyfarwyddiadau yw—
(a)bod awdurdod lleol yn arfer ei bwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion;
(b)bod corff llywodraethu ysgol sefydledig neu wirfoddol yn arfer ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol;
(c)bod dau neu fwy o awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau—
(i)y bydd darpariaeth ar gyfer addysg yn cael ei gwneud odanynt gan un o’r awdurdodau mewn cysylltiad â phersonau o ardal (neu ardaloedd) yr awdurdod arall (neu’r awdurdodau eraill), a
(ii)y bydd darpariaeth yn cael ei gwneud odanynt i benderfynu’r taliadau sydd i’w gwneud o dan y trefniadau mewn cysylltiad â darparu’r addysg honno;
(d)bod dau neu fwy o awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau sy’n darparu bod un o’r awdurdodau hynny’n cyflenwi i’r llall (neu’r lleill) nwyddau neu wasanaethau sydd i’w pennu yn y trefniadau ar delerau (gan gynnwys telerau o ran talu) a fyddai’n cael eu pennu felly;
(e)bod awdurdod lleol a chyrff llywodraethu un neu fwy o ysgolion sefydledig neu wirfoddol yn gwneud trefniadau sy’n darparu bod yr awdurdod yn cyflenwi i’r cyrff llywodraethu nwyddau neu wasanaethau sydd i’w pennu yn y trefniadau, ar delerau (gan gynnwys telerau o ran talu) a fyddai’n cael eu pennu felly.
(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (3)(c) a chyfarwyddyd o dan is-adran (3)(a) neu (3)(b), caniateir i’r taliadau y mae is-adran (3)(c) yn cyfeirio atynt gynnwys swm mewn cysylltiad â’r costau sy’n gysylltiedig â sefydlu, newid neu derfynu’r ysgol o dan sylw.
(5)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (3)(a) neu (3)(b)—
(a)ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion o dan sylw i gael eu cyhoeddi heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd, a
(b)ei gwneud yn ofynnol i’r corff sy’n gwneud y cynigion anfon copi o’r cynigion cyhoeddedig, ynghyd â gwybodaeth arall (o fath a bennir yn y cyfarwyddyd) mewn cysylltiad â’r cynigion hynny i Weinidogion Cymru.