RHAN 2SAFONAU

PENNOD 1YMYRRYD YM MATERION RHEDEG YSGOLION A GYNHELIR

Ymyrraeth gan awdurdod lleol

7Pŵer awdurdod lleol i gyfansoddi corff llywodraethu o aelodau gweithrediaeth interim

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg un o’i ysgolion a gynhelir.

(2)

Caiff yr awdurdod lleol ysgrifennu at gorff llywodraethu’r ysgol i’w hysbysu bod y corff llywodraethu, o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad, i’w gyfansoddi’n unol ag Atodlen 1 (cyrff llywodraethu sydd wedi eu ffurfio o aelodau gweithrediaeth interim).

(3)

Cyn rhoi hysbysiad rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)

ymgynghori â chorff llywodraethu’r ysgol,

(b)

yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ymgynghori â’r canlynol—

(i)

y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)

os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol, ac

(c)

sicrhau cydsyniad Gweinidogion Cymru.